Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HALL , BENJAMIN ( 1802 - 1867 ), Arglwydd Llanover .

Mab Benjamin Hall ( 1778 - 1817 ) ; g. 8 Tachwedd 1802 . Priododd Augusta Waddington 4 Rhagfyr 1823 . Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi sir Fynwy yn 1831 eithr collodd ei sedd ar ôl i betisiwn gael ei hystyried; fe'i hetholwyd eilwaith yn 1832 a pharhaodd yn aelod dros y bwrdeisdrefi hyd 1837 pryd y daeth yn aelod dros Marylebone . Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig yn 1838 . Ym mis Gorffennaf 1855 daeth yn Gomisiynwr Gwaith (' Commissioner of Works ) a gelwir cloc mawr Westminster , a wnaethpwyd pan oedd Syr Benjamin Hall yn gomisiynwr , yn ‘ Big Ben .’ Cafodd ei wneuthur yn farwn 29 Mehefin 1859 — yn ystod ail dymor Palmerston fel prif weinidog — a'i alw'n Baron Llanover (‘of Llanover and Abercarn’) . Bu f. 27 Ebrill 1867 . Bu'n dadlau'n gryf gyda'r esgob Connop Thirlwall ar stad yr eglwys yn esgobaeth Tyddewi gan amdiffyn hawl pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn eu hiaith eu hunain.

Eithr y mae ei wraig, yr arglwyddes Llanover , yn fwy pwysig yn hanes Cymru nag ydyw ef. Ganed AUGUSTA WADDINGTON ar 21 Mawrth 1802 , yn ferch iau Benjamin Waddington , Ty Uchaf, Llanover , a Georgina Port , gor-nith Mrs. Delaney . Pan briodwyd Augusta Waddington a Benjamin Hall unwyd dwy stad gyfagos — Llanover ac Abercarn . Yr oedd ei chwaer hi wedi priodi y barwn Bunsen (a fu'n llysgennad yr Almaen ym Mhrydain yn ddiweddarach) ac felly yn byw ymysg pobl yn cymryd diddordeb mewn astudiaethau Celtaidd. Yn 1834 , mewn eisteddfod yng Nghaerdydd , enillodd Augusta wobr am draethawd ar yr iaith Gymraeg , a thua'r adeg hon mabwysiadodd yr enw barddol, ‘ Gwenynen Gwent .’ O dan ddylanwad Thomas Price (‘ Carnhuanawc ’) daeth yn aelod cynnar o Gymreigyddion y Fenni . Er mai ychydig o Gymraeg a siaradai hi fe drefnodd ei chartre ar linellau Cymreig a rhoes deitlau Cymraeg i'w gwasanaethyddion . Yr oedd yn noddwr i'r ‘ Welsh Manuscripts Society ’ ac i'r ‘ Welsh Collegiate Institution ,’ Llanymddyfri . Prynodd lawysgrifau Edward Williams (‘ Iolo Morganwg ’) gan ei fab Taliesin Williams (‘ ab Iolo ’) — y maent bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru . Bu'n cyd-weithio â Maria Jane Williams , Aberpergwm , a Brinley Richards , yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Cymru ; rhoes hefyd gymorth ariannol i'r canon D. Silvan Evans gyda'i eiriadur mawr. Yr oedd iddi ddau ddiddordeb arall — yr achos dirwestol a Phrotestaniaeth bybyr. Gwaddolodd ddwy eglwys Bresbyteraiddcapel Rhyd y Meirch ac Abercarn — lle yr oedd y gwasanaeth i fod yn Gymraeg . Golygodd , mewn chwe chyfrol, The Autobiography and Correspondence of … Mrs. Delaney (cyhoeddwyd yn 1861 a 1862 ), cyhoeddodd gymysgfa o'r enw Good Cookery … and Recipes communicated by the Hermit of the Cell of St. Gover … 1867 , gyda darluniau wedi eu gwneuthur ganddi hi ei hunan, ac, yn fwy pwysig o'r safbwynt Gymreig , gasgliad o ddarluniau lliw o wisgoedd merched yn rhai o siroedd Cymru ( c. 1843 ). Yr oedd wedi goroesi ei gwr am dros 28 mlynedd pan fu f. 17 Ionawr 1896 .

Yr unig blentyn o'r briodas a fu byw ydoedd Augusta , a briododd 12 Tachwedd 1846 , Arthur Jones , Llanarth , aelod o hen deulu Pabyddol a fabwysiadodd y cyfenw Herbert yn ddiweddarach. Daeth eu mab hwy, Major General Syr IVOR CARADOC HERBERT ( 1851 - 1934 ), yn arglwydd Treowen yn 1917 . Efe a drosglwyddodd y Llanover MSS. i'r Llyfrgell Genedlaethol (yn 1916 ).

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • John Lloyd , The early history of the old South Wales Iron Works (1760 to 1840) from original documents (1906) , 1906 ;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895) , 1895 ;
  • The Cardiff Times , 25 Ionawr 1896 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

HALL, BENJAMIN Arglwydd Llanofer (1802-1867), gwleidydd a diwygiwr.

Ganwyd Benjamin Hall, Arglwydd Llanover 1af, yn Llundain ar 8 Tachwedd 1802, yr hynaf o bedwar mab y diwydiannwr Benjamin Hall (1778-1817) a'i wraig Charlotte (g. Crawshay, 1784-1839). Symudodd y teulu i stad Aber-carn yn Sir Fynwy pan oedd Benjamin Hall yn chwe mlwydd oed. Mynychodd Ysgol Westminster o 1814 tan 1820, pan ymunodd â Choleg Christ Church, Rhydychen. Gadawodd Rhydychen ym 1821 heb gymryd gradd.

Yn fuan wedyn, digwyddodd dau beth a weddnewidiodd ei fywyd. Yn ystod taith o gwmpas Lloegr a'r Alban ym 1822 ymwelodd â phentref New Lanark a sefydlasid gan Robert Owen , gan ddysgu am y cysylltiad rhwng amgylchiadau byw'r dosbarth gweithio a'u moesau, a magu'r awydd i ddiwygio cymdeithas a'i gwnâi yn wleidydd Rhyddfrydol llwyddiannus. Drwy ei briodas ag Augusta Waddington , Arglwyddes Llanover, ar 4 Rhagfyr 1823, daeth yn aelod o gylch dylanwadol o noddwyr yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a gyfunodd genedlaetholdeb diwylliannol a Phrotestaniaeth selog.

Etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol dros fwrdeistrefi Mynwy ym 1831, collodd ei sedd ar betisiwn, ond fe'i hetholwyd eto ym 1832. Gwasanaethodd fel aelod dros fwrdeistrefi Mynwy tan 1837, pan wahoddwyd ef i sefyll dros Marylebone. Bu'n AS llwyddiannus iawn yno tan 1859, gan areithio'n aml yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyhoeddwyd ei A Letter to his Grace of Canterbury ym 1850, araith a gafodd effaith fawr ar y ddadl dros ddiwygio'r Eglwys. Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig ym 1838, a'i apwyntio yn Llywydd y Bwrdd Iechyd ym 1854. Yn sgil ei weithgarwch yn ystod yr epidemig colera a ymledodd drwy Lundain bythefnos wedi ei apwyntiad, a'i ymgyrch egnïol i yrru drwy'r senedd ddeddf iechyd a arweiniodd at sefydlu Bwrdd Gweithiau'r Brifddinas (rhagflaenydd Cyngor Sir Llundain), daeth i sylw'r Frenhines ac fe'i penodwyd yn Brif Gomisiynydd Gweithiau ym 1855, swydd a ddaliodd tan 1858. Ym 1855 ymgyrchodd yn llwyddiannus dros agor parciau Llundain i'r cyhoedd ar ddyddiau Sul er mwyn gwella iechyd y bobl gyffredin, a mwynhawyd y cynllun gan filoedd o bobl, er gwaethaf protestiadau gan Sabathyddwyr. Goruchwyliodd gastio a gosodiad cloc mawr Westminster yn ystod ei gyfnod yn y swydd, a oedd hefyd yn cwmpasu ailadeiladu'r Senedd-dai, ac enwyd y cloc yn ‘Big Ben’ i gydnabod ei gyfraniad, ond hefyd y ffaith ei fod yn ddyn tal iawn, 6‘7 yn ôl rhai. Cafodd ei urddo'n arglwydd ar 29 Mehefin 1859 yn ystod ail dymor Palmerston, i brotestiadau gan y sawl a'i hystyriai'n radical gwleidyddol, daeth yn Farwn Llanofer o Lanofer ac Aber-carn, a chymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Drwy ei briodas ag Arglwyddes Llanofer , daeth yn rhan o gylch o noddwyr yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, er bod y pryder am fuddiannau crefyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cyflenwi clerigwyr a fedrai'r Gymraeg, yn flaenoriaeth iddo ef, yn fwy nag iddi hi efallai. Dyma'r cefndir i'w ddadl gyda'r esgob Connop Thirlwall ar gyflwr yr Eglwys yn esgobaeth Tyddewi. Bu'n un o Gymry blaenllaw Llundain a gyfarfu ym 1842 i drafod noddi gwasanaethau'r Eglwys yn y Gymraeg yn y brifddinas. Wedi codi'r arian angenrheidiol i brydlesu eglwys St Ethelreda a thalu am glerigwr, cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg cyntaf Eglwys Esgobaethol Ely Place, Holborn, ym mis Rhagfyr 1843, gan barhau tan 1874. Yn ei gartref yn Aber-carn, adeiladodd eglwys newydd sbon i gynnal gwasanaethau Cymraeg, a gysegrwyd ym 1854. Delweddir symlrwydd bywyd beunyddiol a thueddiadau dirwestol Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer gan adroddiad cyfoesol am graffiti ar borth eu hystad, ‘A park without deer, a house without beer, Sir Benjamin Hall lives here’.

Yn heliwr brwd drwy gydol ei oes, dioddefodd Benjamin Hall sawl damwain farchogaeth, a chollodd lygad mewn damwain saethu ym 1848. Bu farw yn Llundain ar 27 April 1867 o diwmor yn ei wyneb a achoswyd gan ddamwain saethu ym mis Tachwedd 1866. Claddwyd ef ym meddrod y teulu ger eglwys St Bartholomew, Llanofer.

Ffynonellau:

Awdur:

Marion Löffler, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54