ABEL, SIÔN, baledwr o'r 18fed g.,
yn trigo yn sir Drefaldwyn. Ef oedd awdur ‘Cerdd yn erbyn medd-dod, celwydd a chybydd-dra’, a gyhoeddwyd yn un o dair cerdd mewn llyfryn o wasg H. Lloyd, Amwythig, sef rhif 154 yn y Bibliography of Welsh Ballads (J. H. Davies). Fe geir hefyd yn N.L.W. MS. 14402, sydd yn gasgliad yn llaw Humphrey Jones, o Gastell Caereinion (g. 1719), o gerddi gan feirdd o ardaloedd Meifod a Chaereinion (ymhlith pethau eraill), ddarn Saesneg o ddeg pennill ar fesur trithrawiad. Dwg y teitl ‘A Christmas Carol, 1783, o waith fy hen feistr.’ Ar ddiwedd y darn fe geir ‘yr hen Siôn Abel a'i canodd.’ Hwyrach y gellir credu nad oedd cartre Siôn Abel, yr athro, ymhell o drigle'r disgybl, sef Humphrey Jones o Gaereinion.
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban