Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ABRAHAM, WILLIAM (‘Mabon ’; 1842-1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru; g. 14 Mehefin 1842 yng Nghwmafon, pedwerydd mab Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafon. Bu am gyfnod yn weithiwr alcam ac yna'n lowr, gan ddechrau fel bachgen yn gwylio'r drws. Yn 1870 etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr, a bu'n flaenllaw yn yr ymdrechion a wnaed i gael cytundeb i bennu cyflogau'r gweithwyr yn ôl prisiau a phroffidiau'r diwydiant. Ef oedd llywydd y glowyr ar y ‘Joint Sliding Scale Association’ o 1875 hyd ei ddiwedd yn 1903. Ni weithiai y glowyr ar ddydd Llun cyntaf y mis o 1892 i 1898, er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau. Galwyd y dydd yn ‘Ddiwrnod Mabon.’

Yn 1885 etholwyd ef yn aelod seneddol dros y Rhondda, ac ef oedd y glowr cyntaf i'w ethol o Ddeheudir Cymru. Cynrychiolodd orllewin Rhondda o 1918 i 1922. Cysylltodd ei hun â'r elfen radicalaidd yn y Blaid Ryddfrydol ar y dechrau hyd 1906, ac yna daeth y Blaid Lafur yn sefydliad annibynnol, er na chysylltwyd Ffederasiwn y Glowyr â'r Blaid tan 1909. Eithr ni chymerodd ‘Mabon’ le blaenllaw yn y byd gwleidyddol; erys ei bwysigrwydd hanesyddol yn natblygiad undebaeth llafur yng Nghymru. Casgliad o gymdeithasau lleol ac annibynnol oedd undebau'r glowyr i ddechrau, a cheisiodd ‘Mabon’ ddiogelu eu hannibyniaeth ar waethaf penderfyniad y glowyr ieuainc i sefydlu un corff canolog a chadarn. Buont yn llwyddiannus yn hyn, a sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898 a ‘Mabon’ yn llywydd iddo. Ceisiodd gymodi a chymedroli yn ystod ei lywyddiaeth, eithr methodd ag atal y drwgdeimlad a'r chwerwedd a fu'n tyfu yn y diwydiant ac a achosodd streic gyffredinol yn 1912.

Diddordeb mawr arall ei fywyd oedd yr eisteddfod. Yn herwydd ei gorff cadarn a'i lais cyrhaeddgar daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau y ganrif hon. Dyna'r cyfnod yr oedd tyrfaoedd mawrion yn tyrru i'r eisteddfodau. Gan ei fod wedi ei ddonio â llais tenor clir, canai yn fynych i'r cynulleidfaoedd.

Yn 1860 priododd Sarah, merch Thomas Williams. Bu iddynt dri mab a thair merch. Bu hi f. yn 1900.

Etholwyd ‘Mabon’ yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1911. Bu f. yn y Pentre, Rhondda, 14 Mai 1922.

Llyfryddiaeth:

  • Ness Edwards, The History of South Wales Miners;
  • D.N.B.;
  • The Times, 15 Mai 1922.

Awdur:

Yr Athro Huw Morris-Jones, D.Phil., (1912-89), Bangor