ALEN, RHISIART ap RHISIART, awdur 'Carol ymddiddan ag un marw ynghylch Purdan'

Enw: Rhisiart ap Rhisiart Alen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur 'Carol ymddiddan ag un marw ynghylch Purdan'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ceir y garol yn NLW MS 1559B , tt. 313-5, a ysgrifennwyd yn gynnar yn y 17fed ganrif gan William Bodwrda o Aberdaron. Hwyrach, serch hynny, fod cyfnod cyfansoddi'r garol rymus hon gryn dipyn yn gynharach na'r llawysgrif, yn enwedig gan nad oes awgrym ynddi fod neb yn amau bodolaeth y purdan.

Gwaith beirdd Llŷn a geir gan mwyaf yn y llawysgrif, ac awgryma hyn fod yr awdur o'r rhan honno o'r wlad. Y mae ei ddisgrifio o'r poenau sy'n aros y rhai 'a garo gwrs y byd' yn ein hatgoffa'n fawr o Ellis Wynne.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.