Ei fab, EDWARD ALLGOOD I (1681-1763), oedd prif oruchwyliwr John Hanbury yn y gwaith haearn, ond gwnaeth hefyd welliannau pwysig mewn japanio; bu f. 9 Ionawr 1763 ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanfrechfa. Cyn ei farwolaeth pasiodd y gwaith lacar i ddwylaw dau o'i feibion. Gwnaeth yr hynaf ohonynt, THOMAS ALLGOOD II (g. tua 1707), welliannau pellach (tua 1734) yn y gelfyddyd. Sefydlodd ef, gyda'i fab THOMAS ALLGOOD (ieuengaf) III, a'i frawd ieuengach, EDWARD ALLGOOD II (1712-1801), waith lacar japan ym Mrynbuga yn 1761; yr oedd y symudiad hwn eisoes wedi ei arfaethu ers 1755, a throdd y mater hwn yn achos cynnen a rhwyg yn y teulu.
Yna pasiodd y gwaith lacar ym Mhontypŵl i ofal THOMAS ALLGOOD IV (bedyddiwyd 15 Mai 1727), mab John Allgood I ac ŵyr Thomas Allgood I. Unodd mewn partneriaeth ariannol â John Davies a William Edwards. Eu prif arluniwr a phaentiwr ydoedd Benjamin Barker [q.v.], tad Thomas Barker o Bath [q.v.]; yn ystod y cyfnod hwn cododd ansawdd lacar Pontypŵl i'w uchafbwynt, ac anfonodd cwmni Pontypŵl her (nas derbyniwyd) i'w cystadleuwyr ym Mrynbuga. Bu f. Thomas IV 22 Tachwedd 1779, ac fe'i claddwyd ym mynwent y Bedyddwyr ym Mhenygarn. Dilynwyd ef ym Mhontypŵl gan JOHN ALLGOOD II (fl. 1779-1790), a wnaeth arbrofion mewn japanio ar wydr; tua diwedd ei gyfnod ef y torrodd ei bartner Davies ei gysylltiad â'r cwmni. O gylch 1790 hyd 1811 yr oedd y busnes yn nwylo WILLIAM ALLGOOD I (‘Billy Allgood,’ ‘Billy the Bagman’), y ceir darlun bychan ohono yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Parhaodd i gadw safon uchel ei grefft drwy wasanaeth Mary ei ferch a dwy ferch o'r Midlands — Anne a Hannah Walker — fel paentwyr. Y mae'n ddirgelwch o hyd pa fodd y diflannodd William I yn Llundain yn 1811; daeth cyfrifoldeb y gwaith, eithr ar raddau llai, ar ei weddw, MARY ALLGOOD I (1760-1822) gyda chynhorthwy ei merch MARY ALLGOOD II (1785-1848) (a grybwyllwyd eisoes), a John Hughes, nai Thomas Hughes (1740-1828) [q.v.] [Ni chafwyd erthygl], a ddeuai drosodd o Frynbuga. Yn y siop yn Lower Crane Street (a elwid gynt yn ‘Japan Street’), Pontypŵl, yr oedd ar werth nid yn unig gelfi japan ond nwyddau haearn a chanhwyllau hefyd. Bu f. Mary I 21 Awst 1822, a chyda hi daw hanes japanio ym Mhontypŵl i ben, oherwydd trodd ei mab hi, WILLIAM ALLGOOD II, yn groser, ac ymfudodd i America. Priododd Mary II Thomas Jones, meddyg.
I droi at waith japan Brynbuga — sefydlwyd hwn yn 1761 gan EDWARD ALLGOOD II gyda THOMAS ALLGOOD II a'i fab, THOMAS ALLGOOD (ieuengaf) III; yr oeddynt yn cynhyrchu gwaith penigamp gan ddefnyddio platiau duon a phlatiau alcam o ffwrn Caerlleon. Mae Coxe (Monmouthshire, pennod 25) yn crybwyll iddo gyfarfod ag Edward Allgood II. Ni wyddys ddim ychwaneg am Thomas II nac am Thomas III. Bu f. Edward II yn 1801, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys yr Annibynwyr, y Twyn, Brynbuga. Yr oedd wedi trosglwyddo ei fusnes i'w nai, THOMAS HUGHES (1740-1828) [q.v.] [Ni chafwyd erthygl].
Gw. ymhellach Pyrke, John, a Jones, Evan (1790-1860).
Robert Stephen, M.A., (1878-1966), Bae Colwyn