Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



AMBROSIUS AURELIANUS ( c. 475 ), tywysog neu bennaeth Prydeinig .

Yn ôl Gildas — y sydd y tro hwn heb ddilyn ei arfer o adael allan enwau personol — yr oedd Ambrosius Aurelianus yn disgyn o dras Rhufeinwyr enwog a fu mewn awdurdod dros Brydain yn eu dydd ond a fuasai farw yn yr ornest yn erbyn goresgynwyr o Saeson . Er ei fod yn ŵr heb uchelgais, fe'i tynnwyd gan y Brythoniaid , pan oedd yn gyfyng arnynt, i ganol y gwrthdaro, ac o dan ei arweiniad ef fe gafwyd buddugoliaeth.

Gadawsai etifeddion ar ei ôl, ond nid oedd gan Gildas syniad goruchel am y rhain fel y gellir yn hawdd gredu os oedd yr Aurelius Caninus y mae Gildas yn sôn amdano yn un ohonynt. Yn nhraddodiad y Cymry daethpwyd i'w enwi'n Emrys Wledig (sef Rheolwr), ond bu camddealltwriaeth pan ddywedwyd mai yr un un ydoedd â'r Ambrosius a enwir gan Nennius , sef y bachgen ifanc, gwron y stori werin, a barodd y fath anhwylustod i ddewiniaid Gwrtheyrn ac a roes ei enw i Ddinas Emrys gerllaw Beddgelert .

Y mae gan Sieffre o Fynwy ei ddull llac ei hun o drin Ambrosius Aurelianus ; yn ei ‘historia’ ef gwneir Ambrosius hanes yn Aurelius Ambrosius , mab Cystennin ( nid Cystennin Fawr ); yn blentyn bach fe'i dygir ymaith i Lydaw , dychwel i Brydain drachefn, fe'i heneinir yn frenin , ac y mae'n gorlethu Gwrtheyrn . Yna y mae'n cwrdd â Hengist mewn brwydr ac yn ei ladd; ceir heddwch yn y tir a daw cyfraith a threfn i deyrnasu.

Y mae'r cymysgu a geir gan Nennius yn cael ei ddatrys yn ddeheuig — Merlin oedd y gwneuthurwr-gwyrthiau wedi'r cyfan, y Merlin ‘a enwir hefyd Ambrosius .’ Dyna sut y crewyd y gwahaniaeth tybiedig cydrhwng ‘ Merlinus Ambrosius ’ (‘ Myrddin Emrys ’) a ‘ Merlinus Celidonius ’ (‘ Myrddin Celyddon ’).

Ffynonellau:

  • Mommsen , gol., Gildas , 40;
  • Mommsen, gol., Nennius , 186;
  • Geoffrey of Monmouth , vi, 6, et seq.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54