ANDREWS, JOSHUA (1708?-1793), gweinidog gyda'r Bedyddwyr.
Nid yw hanes ei ddechreuadau'n hysbys; ond yn 1732 neu 1733 daeth yn aelod o eglwys Miles Harri [q.v.] ym Mhen-y-garn. Yn 1736 aeth i Academi Bryste; yr oedd yn un o chwech o Gymry yno — un arall oedd Caleb Evans [q.v.]. Dychwelodd i bregethu'n gynorthwyol ym Mhen-y-garn; a thua 1740 urddwyd ef yn gydweinidog â Miles Harri, a gofal neilltuol yr achos ym Mryn Buga arno; ond nid oedd ei ddoniau'n boblogaidd. Bu'n cynorthwyo yn Llanwenarth yn 1743. Yn 1745, sefydlwyd ef ar hen gynulleidfa enwog Olchon; ond yr oedd hefyd i fugeilio Capel-y-ffin, ugain milltir oddi wrth Olchon. Llafuriodd yn y ddau le mewn tlodi ac afiechyd mawr: ‘dros fwy na hanner canrif, ymddangosai'n aml fel dyn ar farw.’ Bu f. 14 Mehefin 1793 ‘tua 85 oed,’ a chladdwyd ef yn Nhrosnant.
Llyfryddiaeth:
- Rippon, Bapt. Ann. Reg. for 1794-7 (diau mai Joshua Thomas a sgrifennodd y cofnod).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.