ANGHARAD (bu farw 1162)

Enw: Angharad
Dyddiad marw: 1162
Priod: Gruffudd ap Cynan
Plentyn: Annest ferch Gruffudd
Plentyn: Susanna ferch Gruffydd ap Cynan
Plentyn: Rainillt ferch Gruffudd
Plentyn: Marared ferch Gruffudd
Plentyn: Gwenllian ferch Gruffudd
Plentyn: Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan
Plentyn: Owain ap Gruffydd ap Cynan
Rhiant: Owain ab Edwin
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Edward Lloyd

Gwraig Gruffydd ap Cynan, a merch Owain ab Edwin, un o benaethiaid dwyrain Gwynedd. Priododd Gruffydd tua'r flwyddyn 1095, yn gynnar yn ei ymdrech am allu; goroesodd Angharad ei gŵr flynyddoedd lawer, gan farw yn 1162. Dyma eu plant: Cadwallon (bu farw 1132), Owain (Gwynedd), Cadwaladr, a phum merch, sef Gwenllian, Marared, Rainillt, Susanna, ac Annest. Priododd Gwenllian Gruffydd ap Rhys a daeth Susanna yn wraig Madog ap Maredudd.

Rhydd cofiannwr ei gŵr ganmoliaeth uchel i Angharad - yr oedd o bryd golau ac yn brydweddol, yn dyner, yn siarad yn huawdl, yn garedig, yn gall, yn garedig wrth ei phobl ac yn elusengar tuag at y tlawd. Heblaw hanner ei dda, yn unol â hen gyfraith Cymru, gadawodd Gruffydd iddi ddwy randir, ac enillion porthladd Aberffraw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.