Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ANIAN II (bu f. 1293 ), esgob Llanelwy .

Nid ar unwaith y dilynwyd Anian I gan Anian II , oblegid cysegrwyd un John , gwr na wyddys ddim amdano, yn 1267 . Erbyn 5 Ionawr 1268 yr oedd John wedi marw, ac ar 24 Medi 'r flwyddyn honno hysbyswyd fod y brenin wedi cadarnhau ethol Anian , prior cwfaint y Brodyr Duon yn Rhuddlan , yn esgob Llanelwy . Cysegrwyd yr esgob newydd yn Southwark , 21 Hydref , gan yr archesgob Boniface a Walter , esgob Exeter . Dywed cronicl Cymraeg cyfoes, sef Peniarth MS. 20 , y gelwid ‘ Eynnon ’ wrth yr enw ‘ y brawd du o Nannau ’; cadarnheir y cysylltiad hwn â'r lle hysbys hwnnw ym Meirionnydd gan y ffaith fod Adam o Nannau , aelod o urdd S. Dominig , yn gyfaill agos iddo ac yn ysgutor ei ewyllys . Gall y disgrifiad ‘Schonaw’ a ddefnyddir amdano gan Godwin ac ysgrifenwyr diweddarach fod yn llygriad o'r enw Nannau , er bod rhai wedi ymdrechu — a hynny o ddifrif — cysylltu'r gair ‘Schonaw’ â rhywle yng nghymdogaeth Rotterdam . Nid oes dim a brawf fod Anian yn fab i Ynyr Nannau ( fl. 1280 ) ac y mae'n annhebyg iawn iddo erioed fod yn gyffeswr i Edward I .

Barn cronicl Peniarth , a grybwyllwyd eisoes, ydyw mai Anian oedd yr ymladdwr gorau a chryfaf erioed dros iawnderau ei esgobaeth — barn a ategir gan bopeth a ddigwyddodd yn ystod yr amser y bu'n esgob . Pan ddyrchafwyd ef yn esgob yr oedd yr esgobaeth, oblegid cyfamod Trefaldwyn , yn gwbl o dan reolaeth Llywelyn ap Gruffydd . Ar y cyntaf yr oedd y tywysog a'r esgob ar delerau da. Ar 1 Mai 1269 cytunasant â'i gilydd yn yr Wyddgrug ar fater cynnal hen hawliau'r esgobaeth yn y Berfeddwlad . Yr oedd Anian yn cymryd rhan yn y cytundeb rhwng Llywelyn a David y daethpwyd iddo yn yr un flwyddyn yn Aberriw a hefyd yn y cyfamod rhwng Llywelyn a Rhodri a wnaethpwyd 12 Ebrill 1272 yng Nghaernarfon . Ar 30 Hydref 1272 ceir ef yn gennad Llywelyn at Harri III , a oedd bron ar ben ei yrfa, a chanmolir ef gan y brenin am iddo wneud ei waith mor dda. Ond yr oedd gelyniaeth gudd Llywelyn tuag at y brenin newydd yn peri newid yn Anian hefyd. Yn niwedd 1273 ysgrifennodd at Gregory X gan wneud haeriadau yn erbyn Llywelyn ; gwadwyd y rhai hyn yn groyw ar 7 Mawrth 1274 mewn llythyr a anfonwyd gan abadau Sistersaidd Cymru a oedd wedi ymgynnull yn abaty Ystrad Fflur . Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, sef 19 Hydref , paratowyd adroddiad llawn o'r pethau yr oedd anghydfod o'u plegid rhwng Llywelyn a'i esgob ; gwnaethpwyd hyn, ar gais Anian , gan holl glerigwyr yr esgob a oedd wedi cyfarfod ynghyd. Parhaodd yr anghydfod yn ystod y flwyddyn 1275 ; ym mis Mai ysgrifennodd y tywysog yn llawn at yr archesgob Kilwardby , gan achwyn ar yr ymosodiadau arno ac addo derbyn unrhyw ddyfarniad a fyddai'n rhesymol. Pan welwyd fod rhyfel ar dorri allan, troes Anian at y brenin ; cafodd ganddo, 8 Tachwedd , gydnabod hen hawliau'r esgobaeth, a'r un peth eilwaith 20 Ionawr 1276 . Yr oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyngor y brenin yn Westminster a farnodd, 12 Tachwedd , fod Llywelyn i'w gyfrif yn wrthryfelwr , a phan ddychwelodd i Lanelwy cyhoeddodd ef a'i gabidwl restr fanwl o'u hachwyniadau yn ei erbyn. Yn y brwydro a ddilynodd yr oedd Anian ar ochr y brenin , a cheir ei enw yng nghyfamod Conwy ( 9 Tachwedd 1277 ) ymhlith y cynghorwyr brenhinol a oedd i ddwyn y tywysog gerbron y brenin yn Rhuddlan .

Un o effeithiau'r cyfamod hwn oedd symud bron y cwbl o esgobaeth Anian o awdurdod Llywelyn i eiddo'r Goron . Ag Edward yr oedd iddo bellach ddelio; am beth amser yr oedd eu cysylltiadau'n gyfeillgar. Bu'n gweithredu fel un o ustusiaid y brenin yng Nghroesoswallt , 27 Tachwedd 1277 , a thua'r un adeg derbyniodd rodd o dir âr gwerth £20 y flwyddyn yn ardal Llanelwy , hwn i'w rannu yn ddau hanner rhyngddo ef a'r cabidwl , yn iawn-dâl, y mae'n fwy na thebyg, am golledion a gafwyd yn ystod y rhyfel. Yn haf 1281 ymunodd yr esgob â'r brenin i anfon petisiwn at y pab i erfyn caniatâd i symud sedd yr esgob o unigrwydd gwledig Llanelwy i Ruddlan , amddiffynfa frenhinol newydd — ond nid aethpwyd â'r peth ymhellach. Eithr ni pharhaodd y cyd-ddealltwriaeth yn hir. Pan dorrodd y rhyfel allan yn 1282 bu ymladd rhwng Saeson a Chymry yn ardal Rhuddlan , gan gynnwys Llanelwy , a llosgwyd yr eglwys gadeiriol . Ffromodd Anian yn aruthr; aeth ymaith o'i esgobaeth heb roddi dim ychwaneg o gymorth i'r ymladd; efe'n unig un o esgobion talaith Caergaint nid ymunodd i esgymuno'r gwrthryfelwyr Cymreig . Nid hir y bu Edward cyn dial; gorchmynnodd gymryd ei feddiannau oddi arno, a hyd yn oed ar ôl cwymp Llywelyn ni chaniataodd iddo ddychwelyd i'w esgobaeth.

Parhaodd y rhwyg am fwy na dwy flynedd; o'r diwedd llwyddodd ymdrechion yr archesgob Peckham i gael heddwch. Yn haf 1284 cydsyniodd Anian i dalu pum can marc er mwyn ennill ewyllys da'r brenin ; bu iddo fodloni'r brenin ymhellach trwy beidio mwyach wrthwynebu trosglwyddo abaty Conwy i'w chartref newydd ym Maenan . Rhoes Edward iddo yntau, yn gyfnewid, yr hawl i ddewis offeiriaid Rhuddlan .

Yn y cyfamser buasai Anian mewn llawer anghydfod â gwrthwynebwyr llai pwysig na'r brenin . O 1269 hyd 1272 bu'n cynorthwyo John Fitz Alan yn ei gyngaws yn erbyn abaty Amwythig ynglyn â hawliau awdurdod ar eglwys Croesoswallt . Yn 1279 bu'n anghydweld â phrior Chirbury , ac yn 1274 ag abaty Glyn y Groes ynglyn â mater ficeriaethau yn yr eglwysi a ddaliai'r abaty yn y cylch. Helynt fwy pwysig oedd hwnnw rhwng Anian ac esgobaeth Henffordd ynghylch awdurdod esgobol yng nghymdogaeth Gorddwr ar ochr dde'r Hafren o Drefaldwyn i Alberbury . Fe'i teimlai Anian ei hun yn fwy abl i hawlio o achos i Ruffydd ap Gwenwynwyn lwyddo i ychwanegu at ei dywysogaeth ei hun y rhan hon o dde Powys . Ni bu ei hadennill gan Peter Corbet yn 1276 beri i Anian ddigalonni; bu'n ddyfal gyda'i gais am flynyddoedd nes o'r diwedd i'r esgob Swinfield ennill y dydd yn 1288 .

Bu Anian f. 5 Chwefror 1293 . Dengys ei ewyllys a wnaethpwyd yn 1288 yn Chartham , ar bwys Caergaint , fod ganddo lawer o eiddo personol. I achosion ac amcanion crefyddol yn ei esgobaeth, gan mwyaf, y cymynroddodd.

Ffynonellau:

  • Journal of the Flintshire Historical Society , v, 9-30;
  • Councils and Ecclesiastical Documents relating to Great Britain and Ireland , i, 497-8, 498-9, 501-5, 509-10, 511-7, 519-21, 523-4, 528, 529-31, 531-3, 536-7, 539, 541, 550-1, 532-3, 567-8, 576, 579-80, 600;
  • Archaeologia Cambrensis , 1919 , 181-7.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54