ANTHONY, HENRY MARK (1817-1886), arlunydd;
g. ym Manceinion, o dras Cymreig. Symudodd ei deulu i'r Bontfaen, sir Forgannwg, ac yno yn 16 oed aeth yn brentis at feddyg. Daeth yn berchen ar foddion annibynnol a rhoddodd y gorau i alwedigaeth meddyg, gan dreulio tua deng mlynedd ar y Cyfandir yn astudio celf; yn ystod y blynyddoedd hyn daeth dan ddylanwad Corot a Jules Dupré. Bu 129 o'i ddarluniau mewn arddangosfeydd rhwng 1837 a 1884 — yn eu plith ‘A view on the Rhaidha [sic] Glamorganshire’ yn y Royal Academy yn 1837. Ceir peth o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru-e.e. golygfa o abaty Tintern. Yn 1858 aeth i fyw i Hampstead, lle y bu f. 2 Rhagfyr 1886.
Llyfryddiaeth:
- T. M. Rees, Welsh Painters …;
- ibid., Not. W.;
- Bryan, Dict. of Painters, 1930, 43;
- Benezit, Dict. des Peintres, Sculpteurs, 1948, i, 194;
- N.M.W., Cat. of Pictures, 1914.
Awdur:
Miss Mary Gwyneth Lewis, (1912-99), Aberystwyth