ANWYL, Syr EDWARD (1866-1914), ysgolhaig Celtig;
g. 5 Awst 1866 yng Nghaer, yn fab i John ac Ellen Anwyl; addysgwyd yn King's School, Caer, ac yng ngholegau Oriel a Mansfield, Rhydychen. Daeth yn athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1892, ac, yn ddiweddarach, yn athro ieitheg Gymharol hefyd. Fe'i hapwyntiwyd yn brifathro Coleg Hyfforddi Mynwy, Caerleon, ym mis Tachwedd 1913, ond bu f. 8 Awst 1914, cyn dechrau ar ei waith yno. Yr oedd yn aelod o amryw gyrff, megis Bwrdd Diwinyddol Prifysgol Cymru, y Bwrdd Canol Cymreig (ef yn gadeirydd), Comisiwn Brenhinol Cofadeiliau Hynafol (Cymru), a Chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru; yr oedd hefyd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynwyr. Ymysg ei lu cyhoeddiadau fe geir A Welsh Grammar for Schools, Part I, Welsh Accidence, 1898, Part II, Welsh Syntax, 1899; Celtic Religion in Pre-Christian Times, 1906; rhagymadroddion a darlithiau, anerchiadau ac erthyglau mewn cyfnodolion a gwyddoniaduron, yn arbennig Encyclopaedia of Religion and Ethics (Hastings), ac esboniad, yn Gymraeg, ar Hosea.
Yr oedd Anwyl yn ysgolhaig gwych; yr oedd ei wybodaeth yn dra eang ac amryfal. Am flynyddoedd lawer bu'n un o wŷr amlycaf bywyd a gweithgareddau diwylliannol Cymru. Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1911.
Llyfryddiaeth:
- Ww, 1914;
- gwybodaeth bersonol.
Awdur:
Athro-Emeritus Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth