Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ANWYL, LEWIS (1705?-1776), offeiriad ac awdur; g. yn Llandecwyn, sir Feirionnydd, mab William Anwyl, rheithor Llanfrothen (1709-13), a Ffestiniog a Maentwrog (1713-29). Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, yn 1723, a graddio yn 1726. Cafodd fywoliaeth Ysbyty Ifan yn 1740, ac Abergele yn 1742. Cyhoeddodd o leiaf bedwar o lyfrau: (a) Y Nefawl Ganllaw, Neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham. … Argraphwyd yn y Mwythig, gan R. Lathrop, Tros Dafydd Jones [1740]; (b) Myfyrdodau Wythnosawl…; (c) Cyngor yr Athraw i Rieni …; y mae (b) a (c) yng nghyswllt ag (a); (d) Cristianowgrwydd Catholig, neu Draethawd bŷrr tuagat Leihau gwrth ddadlau Ymhlith Cristianogion … yn enwedig ymhlith y plwyfolion hynny, lle y mae'r Methodistiaid neu Hoffwyr Crefydd y Goleuni newydd yn cael cynhwysiad…. Wedi ei gyfieithu o'r ail Argraphiad.

Ceir yn y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrifau tri chyfieithiad arall gan Lewis Anwyl: (e) ‘Addysg y Cristion … Gwedi eu Cyfieithu or Saesoneg gan Lewis Anwyl, Vicar Abergele,’ y rhagair yn cael ei ddyddio Awst 26, 1766 — y mae hefyd gyda hwn ‘Cynnygiadau; Am Brintio trwy Gynnorthwy, Y Cristion wedi ei Addysgu’; (f) ‘Traethawd Ystoriawl o'r Holl Fibl …’, rhagair hwn wedi ei ddyddio yn Abergele Ebrill 15, 1767, a'r gwaith yn gyfieithiad o lyfr J. Hammond, Historical Narrative of the Whole Bible; a (g) cyfieithiad o ragarweiniad John Mabletoft i'w lyfr, The Principles and the Duties of the Christian Religion. Bu f. yn Abergele a'i gladdu yn yr eglwys yno 27 Chwefror 1776.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. MSS. 4573-5;
  • Cylch. Ll.G.C., iv, 96;
  • G. J. Williams, Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw, 43;
  • Thomas, S. Asaph

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth