Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ARTHUR , (? yn gynnar yn y 6ed g.) un o arwyr y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, yr hwn a ddaeth gydag amser yn brif ffigur cylch y chwedlau Arthuraidd. Ni wyddys dim yn sicr amdano fel cymeriad hanesyddol, er na ellir bellach wadu ei fodolaeth, na'i esbonio, fel y gwnaeth John Rhŷs ac eraill, fel ffigur chwedlonol pur. Nis enwir gan Gildas [q.v.] c. 540 wrth gyfeirio at fuddugoliaeth y Brytaniaid ym ‘Mynydd Baddon’ (‘Mons Badonicus’), brwydr y dywed Nennius, disgybl Elfoddw (bu f. 809), i Arthur fod yn fuddugol ynddi ac a gofnodir yn Ann. C. s.a. 518. Yn Ann. C. hefyd, s.a. 539, cofnodir brwydr Camlan, ‘yr hon y syrthiodd Arthur a Medrod ynddi.’ Ymddengys mai'r cofnod olaf hwn sy'n ein dwyn agosaf at Arthur hanes. Oherwydd ei enw (? Ll. Artorius) a chyflwr pethau ym Mhrydain yn niwedd y 5ed g. a dechrau'r 6ed, nid annhebyg ei fod o deulu a ddaethai o dan ddylanwadau Rhufeinig a'i fod yn dal rhyw swydd filwrol yn y cynlluniau i amddiffyn yr ynys wedi ymadawiad milwyr Rhufain. Erbyn dyddiau Nennius tyfasai Arthur yn ffigur arwrol ac amryw chwedlau llên-gwerin wedi'u cysylltu â'i enw. Yn Hist. Britt. disgrifir ef fel ‘tywysog ymladdau’ (‘dux bellorum’) a orchfygodd y Saeson mewn deuddeg brwydr; ac yn yr adran ‘Rhyfeddodau Prydain’ sonnir am ei fab ‘Anir’ a'i gi ‘Cafall,’ y bu'n hela'r Twrch Trwyth ag ef — stori a adroddir yn llawnach yng ‘Nghulhwch ac Olwen.’ Ffigur chwedlonol yw hefyd yn y cyfeiriadau ato mewn cerddi Cymraeg gweddol gynnar; o'r rhain y pwysicaf yw ‘Preiddeu Annwfn’ (Bk. Tal., 54), yr englyn (Black Bk. Carm., 67), a ddywed mai ‘rhyfeddod hyd Ddydd y Farn fydd bedd i Arthur' — tyst i'r gred fod Arthur heb farw — a'r ymddiddan rhwng Arthur a'r porthor Glewlwyd Gafaelfawr (ibid., 94), lle yr enwir llawer o'r arwyr adnabyddus (Cei, Bedwyr, etc.), a gysylltir ag Arthur yn y chwedlau Cymreig a'r corff cyffredinol o straeon Arthuraidd. Yng ‘Nghulhwch ac Olwen,’ lle y'i gelwir yn ‘ben-teyrnedd yr ynys hon,’ ac ym ‘Mreuddwyd Rhonabwy,’ lle y mae'n ‘ymherodr' — teitl sy'n awgrymu dylanwad ‘Brut’ Sieffre o Fynwy [q.v.] — y mae ei lys yng Nghelli-wig yng Nghernyw. Yn y ‘Brut’ (Historia Regum Britanniae) c. 1136 rhoir lle amlwg i ‘hanes’ Arthur; fe'i coronir gan yr archesgob Dyfrig, sefydla lys yng Nghaerlleon-ar-Wysg, gorchfyga'r Saeson mewn cyfres o frwydrau, ac wedyn troi yn erbyn y Pictiaid a'r Sgotiaid. Ar ôl heddychu'r ynys prioda Wenhwyfar ac wedyn fe goncra Iwerddon ac Islont a derbyn gwrogaeth brenhinoedd Gotlond ac Ynysoedd Orc. Ceir heddwch am ddeuddeng mlynedd a daw llys Arthur yn gyrchfan i bob milwr dewr. Y mae'n ymroi i goncro Ewrop i gyd ac yn gwrthod talu teyrnged i Rufain. Pan yw wedi trechu Gâl ac yn paratoi i ymosod ar yr Eidal fe glyw am frad Medrod ym Mhrydain, gorfydd arno droi'n ôl ac fe'i ‘clwyfir yn angheuol’ mewn brwydr ar afon Camel (‘Cambula’) yng Nghernyw a'i gludo i Ynys Afallon i wella ei glwyfau. Sail llawer o'r ‘hanes’ gan Sieffre yw cofnodion Hist. Britt., ond fe'u helaethwyd o bob math o ffynonellau eraill, mewn llyfr ac ar lafar, ac o ddychymyg. Mawr fu dylanwad ‘BrutSieffre yn lledaeniad a datblygiad y chwedlau am Arthur er nad ef oedd unig ffynhonnell ysgrifenwyr diweddarach; cafwyd amryw gyfieithiadau Cymraeg ohono a seiliwyd arno lu o ‘Frutiau’ — mewn rhyddiaith ac ar fydr — yn yr ieithoedd cyffredin. Amheuwyd dilysrwydd stori Sieffre gan Wiliam o Newburgh a Gerallt Gymro, ond eithriadau ydynt hwy. O destun i destun (gan Wace, Chrétien de Troyes, awduron dienw Lancelot a ‘Mort Artu,’ Thomas Malory, etc.) datblygodd llys Arthur, gyda Chymdeithas y Ford Gron, yn ddrych o sifalri'r Canol Oesoedd ac yn fan cychwyn pob antur; a chymhlethwyd y chwedlau fwyfwy, yn arbennig drwy eu cysylltu â'r straeon am y Greal Sanctaidd. Yn y pen draw troes Arthur o fod yn arwr y Brytaniaid i fod yn arwr y Prydeinwyr, a'r chwedlau amdano yn gyfuniad cywrain o draddodiadau llafar am y brenin clwyfedig a ddychwelai ryw ddydd i ryddhau ei gydwladwyr (ac y mae tystiolaeth gyfoes i'r gred hon yng Nghymru, Cernyw, a Llydaw yn y 12fed g.), cofnodion ffug-hanesyddol a chreadigaethau dychymyg un awdur ar ôl y llall. Felly y lluniwyd un o'r cylchoedd rhamant mwyaf toreithiog a fu erioed.

Llyfryddiaeth:

  • Am lyfryddiaeth gw. E. K. Chambers, Arthur of Britain, 233-94;
  • J. D. Bruce, Evolution of Arthurian Romance, 2 vols. ii, 380 ff.;
  • gw. hefyd B.B.C.S., xi, 158;
  • R. G. Collingwood, Roman Britain and the English Settlements, 320-4;
  • K. Jackson, ‘Once again Arthur's Battles,’ in Modern Philology, xliii, 44-57;
  • W. M. Nitze, ‘Arthurian Names: Arthur,’ yn P.M.L.A., lxiv, 585-96.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth