AWBREY, (neu AUBREY), WILLIAM (c. 1529-1595), gwr o'r gyfraith sifil

Enw: William Awbrey
Dyddiad geni: c. 1529
Dyddiad marw: 1595
Rhiant: Thomas Aubrey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwr o'r gyfraith sifil
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn Cantref, Brycheiniog, mab Thomas Awbrey, ac yn disgyn o hen deulu ym Mrycheiniog. Dywedir iddo gael ei addysg yn Christ College, Aberhonddu, i gychwyn. Aeth i Rydychen a graddio yn B.C.L. yn 1549, ac yn D.C.L. yn 1554 a'i ddewis yn gymrawd yng ngholegau All Souls a Jesus ac yn bennaeth New Inn Hall. Fe'i gwnaethpwyd yn athro 'Regius' y Gyfraith Sifil gan y frenhines Mari; nid oes, y mae'n debyg, sail i dybiaeth Strype (Cranmer, t. 576) iddo golli ei swydd am beidio cydymffurfio. Caniataodd Elisabeth iddo drosglwyddo'r swydd i John Griffith (fl. 1560), ac o hynny ymlaen ymroddodd Awbrey i'w waith ymarferol fel gwr y gyfraith yn y llysoedd gwladol ac eglwysig yn rhinwedd ei swyddi fel 'Master in Chancery' (c. 1555), 'Master of Requests' (1590), a phleidiwr yn y ' Court of Arches ' a ' Judge of Audience' yn Llys Caergaint (c. 1592).

Mewn materion eglwysig defnyddiodd ei ysgolheictod yn drwm yn y cyrch yn erbyn syniadau'r Piwritaniaid a'r Browniaid yn yr Eglwys a'r brifysgol (1587-90), bu'n aelod o gomisiynau a fu'n delio ag afreoleidd-dra yn esgobaeth Tyddewi (1581) ac yn ceisio darganfod awdur y traethodau Marprelate (1589-90), a bu iddo ran yng nghondemnio John Penry yn 1593 - yr oedd Penry yn perthyn iddo o bell; ymgynghorodd Grindal ag ef ar fater gwella'r llysoedd eglwysig yn archesgobaeth Caergaint, a phan gymerwyd swydd yr archesgob hwnnw oddi arno gwnaethpwyd Awbrey yn gyd-weinydd (1577) ac wedyn yn unig ficer-cyffredinol (1582); pan oedd Whitgift yn archesgob cadwodd Awbrey 'r swydd ficer-cyffredinol (eithr â llai o awdurdod ganddo) ac yn rhinwedd y swydd bu'n abl i ddangos llawer o ffafrau i'w gyd-Gymry. Ym maes cyfraith gydwladol bu Awbrey yn eistedd ar y comisiwn (1571) a ddyfarnodd y gellid dwyn esgob Ross, llysgennad Mari frenhines y Sgotiaid, i lysoedd cyfraith Lloegr i ateb am ei gynllwynion yn erbyn Elisabeth. Bu pwysigrwydd cydwladol i rai o ddyfarniadau Awbrey ar faterion cyfraith y môr, yn arbennig felly ar rai cwestiynau a oedd yn codi oherwydd y rhyfel ar y môr rhwng Lloegr a Sbaen; bu â rhan hefyd yn yr ymgyrch i ddifodi môr-ladrad ar lannau môr Cymru, ac fe'i cyflogwyd yn breifat - er lles mawr iddynt - gan y ' Merchant Adventurers.'

Bu galw arno i ddyfarnu ar gwestiynau ynglyn ag awdurdod cyfraith Lloegr yng Nghymru, Iwerddon, a'r Channel Islands, a daethpwyd ag ef i gyswllt agosach â gwleidyddiaeth pan oedd yn aelod o gomisiwn yr archesgob Parker a farnodd fod priodas Lady Catherine Grey â Hertford yn anghyfreithlon (1552) - achos yr oedd a fynnai â chwestiwn esgyniad i'r orsedd; a thrachefn pan aeth ei berthynas a'i noddwr Henry Herbert, ail iarll Penfro, yn rhinwedd ei swydd fel prif arweinydd cyrch milwrol y frenhines Mari ar Ffrainc, ag Awbrey gydag ef yno i wasanaethu fel barnwr ('Judge Advocate') (1557); ac yn yr amrywiol betisiynau a chwestiynau cyfreithiol a anfonwyd iddo fel ' Master of Requests ' gan Burghley a'r Cyfrin Gyngor.

Yr oedd Cymry eraill o gyfreithwyr yn cydeistedd ag ef pan oeddid yn dyfarnu ar rai o'r materion cyfreithiol pwysicaf - Cymry fel Dr. Thomas Yale, David Lewis, a Henry Jones (bu farw 1592), rheithor Llanrwst (1554) a Llansannan (1561), a chylch-ganon Llanelwy (1560). Bu Awbrey 'n A.S. dros Gaerfyrddin (1554) ac Aberhonddu (1558), yn ynad heddwch ac yn siryf (1545) dros Frycheiniog, ac yn aelod o Gyngor y Gororau (1586). Daeth i feddu ystadau mawrion yn sir Frycheiniog a mannau eraill yn Ne Cymru - trwy bryniant a thrwy roddion brenhinol - a byddai'n ymweld â hwy o bryd i bryd 'to make merye with his frendes' (Stradling Correspondence, tt. 26, 312). Dywedir iddo farw yn werth £2,500 y flwyddyn ond collwyd y rhan fwyaf o'r eiddo i'w etifeddion gan ysgutor twyllodrus. Yr oedd yn berthynas ac yn gymydog i John Dee ac yn ysgrifennu ato. Fe'i claddwyd yn (yr hen) S. Paul's lle yr oedd iddo gofadail yn ei ddangos wedi ei amgylchynu gan ei dri mab (a dalodd am y gofadail) a'i chwe merch - y naw yn penlinio - ac yn ei ddisgrifio fel hyn: 'a man of exquisite erudition, singular prudence, and great courtesy.'

JOHN AUBREY (1626 - 1697), hynafiaethydd

Gorwyr William Aubrey, a etifeddodd (ar ôl ei hendaid) hawliau ar lawer o diroedd yn sir Frycheiniog - hawliau a olygodd iddo lawer o gyfreithio ac o gost ond a ddaeth ag ef yn ôl i Gymru, ac felly i gymryd diddordeb yn hynafiaethau'r wlad.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.