AUBREY, WILLIAM (1759 - 1827) arolygydd peiriannau ager yng ngweithiau haearn Tredegar

Enw: William Aubrey
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1827
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arolygydd peiriannau ager yng ngweithiau haearn Tredegar
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: John Roberts Evans

Yr oedd yn un o'r peirianwyr hynaf a mwyaf medrus yng Ngwent a Morgannwg, a'i waith arbennig oedd cynllunio a gosod i fyny bob math o beiriant a weithid gan dân a dwfr. Bu'n un o gynorthwywyr Watkin George, y peiriannydd yng Nghyfarthfa, lle y cynlluniwyd ac yr adeiladwyd y peiriant dwfr mwyaf yn Ewrob y pryd hynny. Bu am dros ddeugain mlynedd yng ngwasanaeth Samuel Homfray, yr haearnydd, mewn mwy nag un o'i weithiau. Perchid ef yn fawr am ei gywirdeb a'i gymeriad personol yn ogystal â'i allu a'i fedr fel crefftwr. Yr oedd yn un o ddinasyddion amlycaf ei dref. Bu farw 22 Gorffennaf 1827.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.