BACON (TEULU), perchenogion gweithydd haearn a glo

Serch ffurfio y 'Dowlais Iron Co.' yn 1759 a dewis John Guest, Broseley, yn feistr arno yn 1760, ANTHONY BACON (1717 - 1786) ydyw gwir gychwynnydd y cynnydd gweithfaol mawr a droes bentref bychan Merthyr Tydfil yn ganolfan bwysicaf y gwaith toddi haearn ym Mhrydain ar y pryd. Fe'i bedyddiwyd ar 24 Ionawr 1717 yn St Bees, Cumberland, yn fab i William Bacon, capten llong, a'i wraig Elizabeth Richardson.

Ceir gweithred (29 Awst 1765) yn dangos i Anthony Bacon, Throgmorton Street, Llundain, a William Brownrigg, Workington, Cumberland, brydlesu darn o dir yn mesur tua 4,000 o erwau ac yn ymestyn am tuag wyth milltir o Ferthyr i lawr dyffryn Taf - ardal gyfoethog mewn haearn a glo a'r ddau i'w cael yn ymyl carreg galch a digonedd o ddwr. Cafwyd y cwbl ar delerau rhad - sef £100 y flwyddyn am 99 mlynedd, heb orfod talu dim toll am bob tunnell a godid. Aethpwyd ati i brynu prydlesoedd arwyneb gan ffermwyr y cylch er mwyn gallu codi'r gwahanol adeiladau, tai i'r gweithwyr, a gwneud rheilffyrdd, cafnau dwr, agor lefelydd, tyllu pyllau glo, etc. Cafwyd y prydlesoedd hyn hefyd yn rhad - tua £150 neu £200 y flwyddyn a heb orfod talu toll am bob tunnell a godid. Gwnaethpwyd ffordd hefyd i gysylltu â'r hen ffordd Rufeinig yn arwain trwy Gelligaer a Chaerffili tuag at borthladd bychan Caerdydd. Adeiladwyd ffwrnais haearn Cyfarthfa, a chan fod hon yn ymyl y lle yr oedd haenau'r glo yn dod i'r wyneb, a bod rhai o'r meistri haearn yn defnyddio golosg yn lle sercol wrth wneud haearn brwd ('pig-iron'), y mae'n debyg fod y ffwrnais hon yn defnyddio golosg o'r cychwyn. Yn ddiweddarach adeiladwyd lle i wneuthur haearn bar. Er bod llawer o anawsterau'n wynebu'r ddau bartner, eto yr oedd amgylchiadau'r cyfnod yn gefnogol iddynt, ac yr oedd galw cynyddol am fwy a mwy o haearn. Ar ôl cydweithio am tua deuddeng mlynedd, torrodd Bacon a Brownrigg y bartneriaeth. Eithr aeth Bacon rhagddo. Prydlesodd dir a oedd ar les gan y Meistri Guest a Wilkinson. Cymerth hefyd les o dir yn perthyn i iarll Plymouth, ac adeiladu arno ffwrnais arall heblaw honno a oedd ganddo yng Nghyfarthfa. Dair blynedd wedi hynny (1 Gorffennaf 1780) cafodd les gwaith haearn Hirwaun ynghyd â'r hawl i gloddio am haearn a glo ar gomin Hirwaun Wrgan.

Yn 1775 torrodd rhyfel allan rhwng Prydain a'r trefedigaethau yn yr America; daeth Ffrainc a Sbaen hefyd i'r rhyfel. Golygai hyn fod eisiau pelenni haearn i'r gynnau mawr, arfau rhyfel eraill, a haearn at wneuthur peiriannau i'w defnyddio mewn ffatrioedd ac ar reilffyrdd. Ar ddechrau'r rhyfel cafodd Bacon archebion am ynnau a gynnau mawr ac adeiladodd ffwndrioedd newydd. Ni allai, fodd bynnag, gyflawni'r archebion hyn yn uniongyrchol; yr oedd Act seneddol (1782) yn lluddias aelodau seneddol - yr oedd Bacon wedi dilyn John Wilkes yn 1764 fel aelod seneddol Aylesbury - rhag gwerthu offer rhyfel, etc., i'r Llywodraeth. Ni fynnai Bacon ymddiswyddo fel aelod seneddol; daeth i gytundeb a Francis Homfray - y mae wedi ei ddyddio 27 Medi 1782 - a throsglwyddodd iddo felin yn Cyfarthfa lle y tyllid gynnau mawr, a ffwndri gerllaw, am dymor o 50 mlynedd; yr oedd hefyd i gyflenwi Homfray a digon o'r metel a wneid yn ei weithydd yn Cyfarthfa, Plymouth, a Hirwaun. Ymhen tua dwy flynedd achwynodd Homfray am na châi ddigon o fetel; aeth yn gweryl rhwng y ddau, trosglwyddodd Homfray ei les i David Tanner, gan sefydlu ei dri mab ef ei hun ychydig yn ddiweddarach mewn gwaith haearn newydd yn Penydarren. Tua mis Mawrth 1786 trosglwyddodd Tanner ei les i Richard Crawshay.

Bu Bacon farw yn Cyfarthfa, 21 Ionawr 1786, yn 67 mlwydd oed. Gadawsai ar ei ôl y tri gwaith mawr - Cyfarthfa, Plymouth, a Hirwaun - a'r tri ar lawn waith, ystad o'r enw 'Banklands' yn Cumberland, a chyfran o ystad helaeth yn Virginia yn America. Cyfrifid ef yn un o'r dynion cyfoethocaf ym Mhrydain ar y pryd.

Yr oedd Bacon yn briod ag Elizabeth Richardson, a bu iddynt un mab a fuasai farw yn 1770 yn 12 mlwydd oed. Ond yr oedd iddo bump o blant gordderch, y pump o dan oed pan fu eu tad farw - ANTHONY II, THOMAS, ROBERT (Smith), WILLIAM (Smith), ac ELIZABETH. Trefnodd yn dda ar eu cyfer hwy a'u mam (Mary Bushby, o swydd Gloster). Yr oedd Richard Crawshay (uchod) yn un o dystion ei ewyllys ond nid yn ysgutor.

Yr oedd ANTHONY BACON II, pan ddeuai i'w oed, i gael Cyfarthfa, THOMAS i gael Plymouth, etc., a'r ddau i gael haearn a glo Hirwaun hefyd. Ymddengys i ROBERT gael y gweithydd ym mhlwyf Workington. Gofalodd y tad drefnu hefyd ar gyfer ELIZABETH BACON a'r baban WILLIAM. Cyn gynted ag y gallent, o ran oed, etc., gwnaeth y meibion gais yn Llys y Chancery yn Llundain am eu hetifeddiaethau. Trosglwyddwyd Cyfarthfa gan ANTHONY II i Richard Crawshay, a oedd i dalu iddo rent o £5,000 y flwyddyn, gan ymrwymo hefyd i dalu pymtheg swllt am bob tunnell o haearn a glo a godid uwchlaw'r maint a enwid yn y weithred. Trosglwyddodd THOMAS yntau waith Plymouth i Richard Hill. Ym mis Hydref 1799 prynodd Anthony a Thomas gyfran un Mr. Glover yng ngwaith Hirwaun. Ond y mae'n amlwg nad oedd gan y brodyr ddim awydd nac, efallai, mo'r ddawn i ddatblygu'n feistri haearn fel eu tad. Gwerthodd Anthony ei gyfran ef yn Hirwaun i Thomas am £3,000; ym mis Ionawr 1806 prynodd ystad Mathews yn Aberaman, ac aeth i'w plasty i fyw. Yn Chwefror 1814 gwerthodd y cwbl o'i hawliau mwnawl yn Cyfarthfa i Richard Crawshay am £95,000. Bu farw yn Aberaman, 11 Awst 1827. Mab iddo ef oedd ANTHONY BACON III, sef y Cadfridog Bacon (1796 - 1864). Priododd ef Charlotte Mary, ail ferch Edward Harley, 5ed iarll Oxford.

Treuliai THOMAS BACON lawer o'i amser yn Aberaman; bu 'Llyfr Aneirin' yn eiddo iddo ar un adeg - gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, xi, 109-12.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.