Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BARHAM, DIANA (1763-1823), arglwyddes, noddwraig crefydd; unig ferch Charles Middleton, Arglwydd Barham, a Margaret ei briod, Barham Court, Kent. Priododd, yn 1780, Syr Gerard Noel. Yr oedd o ysbryd efengylaidd. Ymsefydlodd yng Ngŵyr, Morgannwg, yn 1813, a chyda chymorth y Methodistiaid sefydlodd achosion crefyddol a chodi capeli iddynt yn rhannau Seisnig Gŵyr. Ni bu'r cydweithrediad rhyngddi â'r Methodistiaid yn hapus bob amser, ond cafodd gefnogaeth yr Annibynwyr hwythau. Bu f. 12 Ebrill 1823, yn Fairy Hill, Gŵyr. Ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei marw cyflwynodd ei mab Charles, Arglwydd Barham — Arglwydd Gainsborough wedyn — y capeli i ymddiriedolwyr. O'r chwe chapel a godwyd ganddi y mae dau o hyd yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd, a'r lleill yn eiddo i'r Annibynwyr.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B., xxxvii, 341;
  • Burke's…Peerage (1949), 803;
  • The Cambrian, 19 Ebrill 1823;
  • W. Williams, Memoir of William Griffiths, passim;
  • H.E.A.C., ii, 435-9.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe

Atodiadau a chywiriadau:

BARHAM, DIANA (Bywg., 22b) bellach gw. hefyd Gower Memories (Llandysul, 1927), gol. Alicia Gower-Jones (hunangofiant William Griffiths, 1788-1861, Bywg., 289a).