BARHAM (TEULU), Trecwn, Sir Benfro

Yn Cheltenham ar 1 Gorffennaf 1754 priodwyd Dorothea, pedwaredd ferch John Vaughan o Drecwn o'i wraig Joan Corbet, a JOSEPH FOSTER -BARHAM, mab y Cyrnol John Foster (1681 - 1731), Egham House, swydd Surrey, a Jamaica; Ganwyd ef yn Jamaica ar 16 Rhagfyr 1729 ac etifeddodd ystadau eang y teulu yno. Cymerodd enw ei lysdad, y Doctor Henry Barham, yn 1750, a bu farw yn 1789.

Etifeddwyd ystad Trecwn gan ei fab hynaf, JOSEPH FOSTER -BARHAM (ganwyd 1 Ionawr 1759) yn 1803 ar ôl marw ei fodryb Martha Vaughan, yr olaf o hen deulu Trecwn. Yn 1792 priododd Caroline Tufton (bu farw 1832), ail ferch Sackville Tufton, yr 8fed iarll Thanet, ac efe oedd y cyntaf o'r Barhamiaid a fu'n byw yn Nhrecwn. Bu'n aelod seneddol dros Stockbridge am hanner can mlynedd. Ar ôl ei farw yn 1832, dilynwyd ef gan ei fab hynaf, JOHN FOSTER BARHAM, aelod seneddol dros Stockbridge ac, yn ddiweddarach, dros Kendal. Priododd hwn yr Arglwyddes Catherine Grimstone, merch iarll Verulam, yn 1834, a bu farw'n ddi-blant yn 1838. Dilynwyd ef gan ei frawd (y trydydd mab), y Parch. CHARLES HENRY FOSTER BARHAM o Drecwn (1808 - 1878), aelod seneddol Appleby (1832), ynad heddwch yn Sir Benfro a Westmorland, ac M.A. Rhydychen. Priododd (1), 1836, Elizabeth Maria (bu farw 1860), merch William Boyd Ince o Ince yn swydd Lancaster, a (2), Ellen Catherine, merch E. T. Massey o Cottesmore, Sir Benfro.

O tua 1855 ymlaen bu'r Parch. Charles Foster-Barham a'i wraig gyntaf yn gyfrifol i raddau helaeth am gynnal ysgol ar gyfer plant yr ardal. Cychwynnwyd yr ysgol dros y ffin ym mhlwyf Llanstinan, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i Nantybugail. Yn 1868 sefydlwyd Ysgol Barham yn Nhrecwn gan Henry Alexander Ince er cof am ddiddordeb ei chwaer mewn addysg leol. Bu'r Parch. Charles Foster-Barham farw'n ddi-blant yn Nhrecwn a disgynnodd ystadau'r teulu i'w nai, FRANCIS WILLIAM ROBINS (ganwyd yn St. John's Wood, Llundain, 1841), mab i'w chwaer Caroline Gertrude Foster-Barham, gwraig y Parch. Sanderson Robins (bu farw 1862), rheithor Shaftesbury. Cymerodd yr enw Barham ar ôl etifeddu'r ystadau a chartrefodd yn Nhrecwn. Yr oedd yn gapten yn y Queen's 60th Rifles. Yn 1868 priododd Mary Agnes Cook ym Montreal. Bu farw 8 Rhagfyr 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.