Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BARKER, THOMAS WILLIAM (1861-1912), cofrestrydd esgobaeth Tyddewi; g. Mai 1861 yng Nghaerfyrddin, mab J. H. Barker, cyfreithiwr lleol a fu ei hun yn glerc bwrdeisdref Caerfyrddin a chofrestrydd esgobaeth Tyddewi. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin ac yn Harrow. Ymsefydlodd fel cyfreithiwr, a daeth yn aelod o gwmni Barker, Morris, a Barker gyda'i dad fel prif aelod. Apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd i esgob Tyddewi ym Mehefin 1897 ac yn gofrestrydd yr esgobaeth yn Chwefror 1899, swydd a lanwodd hyd ei farw. Yn wleidyddol yr oedd yn Geidwadwr. Ymddiddorai ym myd natur a hynafiaethau. Cymerai ran flaenllaw mewn mudiadau lleol — milwrol, ieuenctid, etc. Crynhodd lawlyfr Saesneg, A Handbook to the Natural History of Carmarthenshire, a gyhoeddwyd yn 1905, a hefyd Particulars relating to the endowments, etc., of livings in the diocese of S. Davids, a gyhoeddwyd yn 1907 mewn pedair cyfrol, un am bob archddiaconaeth yn yr esgobaeth. Ynghyd a Francis Green crynhodd restrau o offeiriadon sir Benfro — rhestrau a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn West Wales Historical Records. i-vi, 1912-6. Bu f. fis Gorffennaf 1912.

Llyfryddiaeth:

  • Cofrestri esgobol Tyddewi yn y Llyfrgell Genedlaethol;
  • The Welshman, 1861 a 1912.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth