BASSETT, RICHARD (1777 - 1852), offeiriad Methodistaidd

Enw: Richard Bassett
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1852
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn Nhresigin, Llanilltud Fawr, Morgannwg, 7 Tachwedd 1777. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bontfaen, a bu yng Ngholeg Iesu Rhydychen, am ysbaid. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1801, ac yn offeiriad yn 1802. Bu'n gurad yn Sain Tathan a Llan-dw; cafodd reithoriaeth Eglwys Brewys yn 1832, a ficeriaeth Tregolwyn yn 1843, a bu farw 31 Awst 1852.

Ei gyfaill pennaf oedd William Howels; ef a'i cyflwynodd i sylw David Jones, Langan, a dechreuodd gyfathrachu â'r Methodistiaid. Llwyddodd i gadw ei le yn Eglwys Loegr hyd ei farw er iddo ddilyn seiadau a sasiynau'r Methodistiaid, a bod yn ymddiriedolwr i'w capeli ym Morgannwg. Ef oedd yr offeiriad olaf yng Nghymru, nid hwyrach, i ddal cyswllt â'r Methodistiaid.

Ei frawd, ELIAS BASSETT, cyfreithiwr, oedd prif leygwr Methodistiaid Morgannwg am gyfnod hir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.