BAXTER, GEORGE ROBERT WYTHEN (1815 - 1854), awdur

Enw: George Robert Wythen Baxter
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1854
Priod: Martha Maria Baxter (née Caulfield)
Rhiant: George Trotham Baxter
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Elwyn Evans

O'r Bryn Uchaf, Llanllwchhaiarn, Sir Drefaldwyn. Ganwyd yn Nhrefynwy, a'i fedyddio ar 14 Mehefin 1814, yn unig fab George Trotham Baxter (1762 - 1841) o Henffordd, ac yn aelod o hen deulu a fu ers amser yn ardal y Drenewydd. Un o'i gyndeidiau oedd Richard Baxter, y diwinydd enwog.

Ymaelododd mewn coleg yn Rhydychen ond ni raddiodd yno. Rhestrir pedwar o'i weithiau yng nghatalog llyfrau printiedig yr Amgueddfa Brydeinig. Yn eu plith ceir The Book of the Bastiles, or the History of the working of the Poor Law (1841), llyfr a gondemniai'r tlotai, a Don Juan Junior; a poem by Byron's Ghost, 1839.

Priododd Martha Maria Caulfield (a fu farw 1 Ebrill 1875) yn Ninbych y Pysgod 5 Mehefin 1833. Bu farw 17 Ionawr 1854, ac y mae cofeb iddo yn eglwys Llanllwchaiarn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.