BEADLES, ELISHA (1670-1734), Crynwr ac awdur;
mab John Beadles, Kempston, swydd Bedford, ac Elizabeth, aeres Walter Jenkins, Pant, Crynwr. Priododd Anne Handley yn 1699. Cyfieithodd yn Gymraeg draethawd a ysgrifenasid gan ei daid, Walter Jenkins, yng ngharchar Trefynwy, ac a enwid ‘The law given forth out of Zion …’, a chyhoeddwyd y cyfieithiad yn Amwythig, c. 1715, o dan y teitl Y gyfraith a roddwyd allan o Sion. Ysgrifennodd hefyd ragair i atebion Theodor Eccleston i Thomas Andrews, ficer Llanover, a ysgrifenasai am Grynwyr at un o'i blwyfolion yn Pontypŵl. Anfonodd hanes dechreuad achos y Crynwyr yn Ne Cymru i'r ‘Meeting for Sufferings’ yn Llundain, 21 Awst 1720.
Llyfryddiaeth:
- T. M. Rees, Hist. Quakers in Wales.
Awdur:
Y Parch. Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd