BEC (neu BEK), THOMAS (bu farw 1293), esgob Dewi

Enw: Thomas Bec
Dyddiad marw: 1293
Rhiant: Walter Bek
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Dewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Ail fab Walter Bek, barwn Eresby, sir Lincoln. Cymerodd radd meistr ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn 1269 etholwyd ef yn ganghellor. Gyda'i frawd iau, Antony, esgob Durham wedyn, aeth i wasanaeth y Goron pan ddychwelodd Edward I i Loegr yn Awst 1274, a thrwy ei allu a'i ffyddlondeb enillodd gymeradwyaeth wresog y brenin. Ei swydd o Hydref 1274 hyd ddiwedd 1280 ydoedd ceidwad, sef pennaeth, y wardrob; gelwid ef weithiau yn drysorydd y brenin. Yn ôl yr arfer, ar draul yr Eglwys y derbyniai ei dâl; fe'i ceir yn archddiacon swydd Dorset yn 1275 a Berkshire yn ddiweddarach (tua 1280), ac yn Ionawr 1280 derbyniodd gan y brenin brebend Castor yn eglwys gadeiriol Lincoln.

Argoel o newid gyrfa ydoedd cael prebend yn Nhyddewi ym Mai 1280; yr oedd yr esgobaeth yn wag drwy farwolaeth Rhisiart Caeryw, ac ar 3 Mehefin etholwyd Bec yn ei le. Datganodd y brenin ei gydsyniad ar y 17eg; oedwyd cysegru am dipyn, ond ymddengys mai er mwyn gosod arbenigrwydd ar yr achlysur y bu hyn. Ar 6 Hydref 1280 bu cynhulliad urddasol yn Lincoln a gynhwysai'r brenin a'r frenhines a llawer o fawrion y deyrnas. Yno cysegrwyd Bec gan yr archesgob Peckham, a'r tri esgob Cymreig arall yn gweini. Dilynwyd y cysegru gan symud corff S. Hugh d'Avalon, esgob Lincoln, i ysgrin newydd gydag ysbleddach ar gost y prelad newydd.

Rhoes Bec y gorau yn awr i'w ddyletswyddau sifil (ac eithrio iddo weithredu am ychydig yn 1280-1 fel comisiynydd brenhinol yng Nghymru), ac o hyn ymlaen bu'n ddyfal yn ei ymroddiad i fuddiannau ei eglwys a'i esgobaeth. Daeth i'w esgobaeth yn nechrau Chwefror 1281, pryd y canodd offeren yn Ystrad Fflur. Eisteddodd yn ei gadair yn eglwys Fynyw ar Ddygwyl Dewi. Ni phriodolir iddo unrhyw ran yn adeiladu'r eglwys gadeiriol, ond bu'n ddiwyd iawn mewn cyfeiriadau eraill. Yn 1287 cryfhaodd y cabidwl drwy greu swyddi canghellor, is-ddeon, ac is-gantor. Cafodd oddi ar law'r goron fraint cadw helwriaeth ar diroedd yr esgobaeth a ffeiriau a marchnadoedd ar ddyddiau penodedig yn ei chanolfannau dinesig. Gwnaeth brotest ffurfiol pan ddaeth yr archesgob Peckham ar daith drwy Gymru i Fynyw ar 10 Gorffennaf 1284, ond ni bu fawr lwyddiant ar yr ymgais hon i agor hen ddadl, oherwydd ducpwyd i gof Bec iddo pan gysegrwyd ef gydnabod yn bendant uchafiaeth esgobaeth Caergaint. Ar 26 Tachwedd 1284 ymwelodd y brenin a'r frenhines â'u hen gyfaill yn ei ddinas - parch a gostiodd yn ddrud iddo, oherwydd ychydig yn ddiweddarach bu raid iddo geisio maddeuant dyled i'r brenin i glirio'r costau yr aeth iddynt yn yr achos hwn ac achosion eraill.

I'r cyfnod hwn y perthyn castell cadarn Llanaeddan sy'n ymddyrchafu uwch yr afon Cleddau ddwyreiniol, a thybir mai ei waith ef ydyw. Sefydlodd ddau ysbyty, un yn Llanaeddan a'r llall yn Whitewell heb fod ymhell o'r eglwys gadeiriol. Dylid hefyd grybwyll dau goleg a sefydlodd yn rhannau anghysbell yr esgobaeth, un yn 1283 yn Llangadog (a symudwyd yn ddiweddarach i Abergwili) a'r llall yn 1287 yn Llanddewi Brefi.

Bu Bec farw 20 Ebrill 1293 a chladdwyd ef ym Mynyw. Credir mai ef biau'r bedd ar ddull allor sydd ym mur gogleddol Capel y Forwyn. Argraff ymroddiad syml i ddyletswydd sydd ar ei yrfa; nid eiddo ef uchelgais a thymer flaengar ei frawd enwocach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.