Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BELL , RICHARD ( 1859 - 1930 ), aelod seneddol ac arweinydd undebau llafur ; g. Tachwedd 1859 ym Mhenderyn , sir Frycheiniog , mab Charles a Mary Bell . Sgotiaid oedd ei daid a'i nain ar ochr ei dad, a ddaeth o Lincoln i'r Pantmawr yn Ystradfellte ; tua'r flwyddyn 1860 gadawodd ei dad y chwarel ac ymunodd a heddlu Morgannwg . Symudodd i Ferthyr Tydfil ac yno y cafodd Richard Bell ei addysg gynnar a phrin. Am dymor cafodd waith yn swyddfa gwaith dur Cyfarthfa , ond yn 1876 aeth i weithio gyda chwmni'r rheilffordd yn Pontypool Road , ac yno yr ymunodd a Chymdeithas Unedig Gweision y Rheilffyrdd . Yn 1886 symudwyd ef i Abertawe ; ffurfiodd yno gangen o'r gymdeithas ac yn 1897 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol .

Digwyddodd dau beth o gryn bwysigrwydd yn ystod ei ysgrifenyddiaeth. Y cyntaf oedd streic y Taff Vale yn 1900 . Daeth y cwmni ag achos cyfreithiol yn erbyn yr undeb a chafodd iawndal o £23,000. Canlyniad hyn fu newid cyfraith y wlad ynglŷn ag undebau llafur , fel na byddent mwyach yn gyfrifol am weithredoedd eu haelodau. Yr ail oedd achos cyfreithiol enwog ynglŷn a gŵr o'r enw Osborne . Yr oedd hwn yn ysgrifennydd cangen o'r undeb , a gwadodd hawl yr undeb i godi tâl ar yr aelodau at bwrpas politicaidd. Aethpwyd â'r achos i Dŷ'r Arglwyddi a'i benderfynu yn erbyn yr undeb. Canlyniad hyn eto oedd newid y gyfraith yn 1913 a chaniatáu i'r undebau godi toll wleidyddol.

Prif bwysigrwydd Bell oedd ei wrthwynebiad i'r rhai a geisiai sefydlu Plaid Lafur annibynnol . Yn 1900 etholwyd ef yn aelod seneddol dros Fwrdeisdref Derby — y gweithiwr rheilffordd cyntaf i'w ethol i'r Senedd . Yr oedd yn un o'r pedwar cynrychiolydd undebol ar y pwyllgor a dynnodd allan gyfansoddiad i'r ‘ Labour Representation Committee .’ Pan sefydlwyd hwnnw yn 1901 daeth Bell yn drysorydd iddo, a'i gadeirydd yn 1902-3 . Serch hyn i gyd, gwrthwynebodd fabwysiadu gwelliant i'r cyfansoddiad yng nghynhadledd Newcastle , yn 1903 , a geisiodd sefydlu Plaid Lafur annibynnol .

Yn 1904 penodwyd Bell yn llywydd Cynhadledd yr Undebau Llafur . Yn 1906 ailetholwyd ef fel aelod Llafur-Rhyddfrydol dros Derby , ond yn 1910 ymddiswyddodd a rhoes ei swydd gyda'r undeb i fyny ar yr un pryd. Cymerodd swydd weinyddol o dan y Bwrdd Masnach i drefnu swyddfeydd llafur yn gysylltiol â'r ddeddf; trosglwyddwyd hyn i'r Weinyddiaeth Lafur yn ddiweddarach. Yn 1907 gwnaed ef yn ustus heddwch yn sir Middlesex . Gweithredodd hefyd fel ysgrifennydd bwrdd Llundain o'r Cwmni Argraffu Cydweithredol . Yn 1922 etholwyd ef i gyngor dosbarth Southgate , a bu'n llywydd yn 1925-6 .

Yr oedd yn Gymro trwyadl ac yn medru Cymraeg yn rhugl. Bu'n briod dair gwaith ac yn dad i wyth o blant. Bu f. 1 Mai 1930 .

Llyfryddiaeth:

  • Labour Party Research Dept.;
  • gwybodaeth gan y Parch. R. W. Bell, Abercynon ;
  • The Daily Herald , 2 Mai 1930 ;
  • Y Brython , 15 Mai 1930 ;
  • Beer , A History of British Socialism , 1920-21 ;
  • Alcock , Fifty Years of Railway Trade Unionism , 1922 .

Awdur:

Yr Athro Huw Morris-Jones, D.Phil., (1912-89), Bangor.