BENNETT, NICHOLAS (1823 - 1899), cerddor a hanesydd

Enw: Nicholas Bennett
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1899
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 8 Mai 1823 yng Nglanrafon, Trefeglwys, Sir Drefaldwyn. Cofnodir iddo gael ei fedyddio yn Llanfihangel, 8 Mehefin 1823. Cymerai ddiddordeb mewn casglu ac efrydu gweithiau hanesyddol, cerddoriaeth, a barddoniaeth. Cyfansoddodd ddwy gân, un i'r Cerddor a'r llall i Songs of the Four Nations.

Casglodd dros 700 o alawon Cymreig, a chyhoeddwyd 500 ohonynt mewn dwy gyfrol yn 1896, o dan yr enw Alawon fy Ngwlad , wedi eu dewis a'u trefnu gan D. Emlyn Evans; yn y llyfr ceir darluniau a bywgraffiadau o delynorion a chantorion gyda'r tannau, a nodiadau eglurhaol ar y dull o ganu gyda'r tannau. Gadawodd ar ei ôl draethawd ar arfbeisiau tywysogion Cymreig gyda darluniau ohonynt. Diogelwyd rhai llythyron o'i eiddo yn NLW MS 584B ; a gweler hefyd NLW MS 588C .

Bu farw 18 Awst 1899, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel Trefeglwys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.