BEVAN, HOPKIN (1765 - 1839), pregethwr gyda'r Methodistiaid

Enw: Hopkin Bevan
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1839
Rhiant: Mary Bevan
Rhiant: Rees Bevan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 4 Mai 1765 yng Ngellifwnwr (neu Cilfwnwr), Llangyfelach, mab i Rees a Mary Bevan. Cafodd ychydig o addysg yn Llangyfelach ac Abertawe. Ymunodd â'r Methodistiaid yn y Gopa-fach yn 1788; dechreuodd bregethu tua 1792; ordeiniwyd ef yn y fintai gyntaf yn sasiwn ordeinio gyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Bu'n bregethwr poblogaidd a theithiodd y wlad benbwygilydd yn ôl arfer ei oes.

Yr oedd hefyd yn llenor ac emynydd. Cyhoeddodd: Marwnad … Griffydd Morgans (Caerfyrddin, I. Daniel, 1796 Hymnau a Phenillion (Abertawy, E. Griffiths), 1837; Ychydig Hanes neu Goffadwriaeth (Abertawy, E. Griffiths), 1838. Ceir nifer o emynau a marwnadau yn y ddau ddiwethaf; y mae'r olaf yn gronicl gwerthfawr o ddechreuad Methodistiaeth ym Morgannwg. Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan ei fab yn 1840, a chasglwyd ei brydyddiaeth gan ei gofiannydd yn 1899.

Bu farw 29 Rhagfyr 1839, a'i gladdu yng nghanol capel Bethel, Llangyfelach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.