BEVAN, THOMAS ('Caradawc' neu 'Caradawc y Fenni,' 1802 - 1882), hynafiaethydd

Enw: Thomas Bevan
Ffugenw: Caradawc, Caradawc Y Fenni
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1882
Priod: Catherine Bevan (née Anthony)
Rhiant: Lewis Bevan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Williams

Ganwyd 13 Medi 1802, ym Melin Maesmawr, ger Talybont, sir Frycheiniog, mab Lewis Bevan. Addysgwyd ef yn yr ysgol fechan yng nghapel y Bedyddwyr, Llangynidr, ac yna mewn ysgol breifat yn y Fenni. Wedi bwrw'i brentisiaeth mewn siop groser yn y Fenni, aeth i Lundain, lle bu'n gwasanaethu yn siop ei ewythr yn agos i Tower Hill; wedi hynny bu'n gweithio mewn siop yn Clydach Works, sir Frycheiniog (a adnabyddid fel Llanelly Works).

Yno daeth i gyffyrddiad a nifer o Gymry a oedd yn ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru a'r eisteddfod - David Lewis (mab y Parch. James Lewis, Llanwenarth), Thomas Williams ('Gwilym Morganwg'), a John Morgan (y 'Rhifyddwr Egwan' yn Seren Gomer). Daeth i ymgydnabyddu ag arddull lenyddol trwy ddilyn dadleuon Thomas Price ('Carnhuanawc') a David Owen ('Brutus') ar dlodi'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn Seren Gomer.

Priododd Catherine Anthony, merch Benjamin Anthony, Llanwenarth, 17 Gorffennaf 1826, ac fe'i cysylltodd ei hun â'i dad-yng-nghyfraith mewn busnes cario nwyddau mewn gwagenni ar ffyrdd ac ar gamlas.

Penodwyd ef yn ysgrifennydd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn 1833. Ymddiswyddodd yn 1839, ac yn 1843 dewiswyd ef yn feistr tloty undeb y Fenni, ond ni pheidiodd a gweithio'n ddiwyd dros Gymdeithas y Cymreigyddion. Yn 1863 cychwynnodd fasnach gwerthu glo a halen yn y Fenni.

Bu farw 10 Rhagfyr 1882, a'i gladdu ym mynwent capel y Bedyddwyr, Llanwenarth, lle y bu'n aelod am dros hanner canrif.

Ychydig fu ei gynnyrch llenyddol, er y medrai nyddu englyn ar bron bob amgylchiad. Yn eisteddfod y Fenni, 1835, gwobrwywyd ef am draethawd ar 'Hanes Gwent dan lywodraeth Rufeinig,' ond ni chyhoeddwyd mohono (NLW MS 13959E ). Ei gyfraniad pennaf i Gymru oedd ei waith ynglyn â Chymdeithas Cymreigyddion y Fenni; iddo ef, yn anad neb, y mae llwyddiant yr eisteddfodau a gynhaliwyd o dan nawdd y gymdeithas i'w briodoli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.