BEYNON, THOMAS (1744 - 1835), archddiacon Ceredigion, noddwr llenyddiaeth ac eisteddfodau Cymru

Enw: Thomas Beynon
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1835
Rhiant: Rachel Beynon (née Thomas)
Rhiant: Griffith Beynon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon Ceredigion, noddwr llenyddiaeth ac eisteddfodau Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch
Awdur: John Williams James

Ganwyd yn Greenmeadow, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, bedyddiwyd 26 Awst 1745, yn fab i Griffith Beynon a Rachel (Thomas) ei wraig. Addysg ysgol ramadegol, nid prifysgol, a gafodd.

Cyflwynwyd ef i esgob Henffordd gan esgob Tyddewi. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 21 Awst 1768 yn Abergwili. Bu'n gurad Cathedin, sir Frycheiniog, 1768-1770, (ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Henffordd pan ddaliai guradiaeth Cathedin), yn offeiriad plwyfol Llanfihangel Cilfargen, Llanfihangel Aberbythych, a Llandyfeisant (oll ger Llandeilo Fawr), 1770-1833, yn rheithor Llanedi 1782-6, ac yn rheithor Penboyr, 1784-1833, yn ddeon gwlad Emlyn, prebendari Clyro yn eglwys golegol Aberhonddu (Christ College), 1796-1833, ac yn archddiacon Ceredigion, 1814-1833.

Cyfrannodd lawer o'i gyflog at adeiladu eglwysi mewn mannau tan ei ofal; derbyniodd coleg newydd Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, yn helaeth o'i haelioni. Cynorthwyodd ysgolion cylchredol Madam Bevan (Griffith Jones, Llanddowror), a thystiodd i allu Morgan Rhys yr emynwr fel ysgolfeistr yn ei blwyfi yn 1771-2, gan wneud cais amdano dros dymor 1772-3.

Noddodd Gymdeithas Cymreigyddion Caerfyrddin am flynyddoedd lawer, a bu'n aelod pwysig o bwyllgor eisteddfod Caerfyrddin yn 1819. Ymddiddorodd yn iaith a llenyddiaeth Cymru, a chyflwynodd amryw feirdd a llenorion lyfrau iddo, yn bennaf oll Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion'). Y mae lle cryf i gredu mai teulu Fychaniaid Gelli Aur oedd ei noddwyr.

Yn Llandeilo Fawr y bu ei gartref o 1770, ac yno y bu farw 1 Hydref 1835 a chladdwyd ef yno ar 8 Hydref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.