Fe wnaethoch chi chwilio am John Blackwell (Alun)

Canlyniadau

BLACKWELL, JOHN ('Alun'; 1797 - 1840), offeiriad a bardd

Enw: John Blackwell
Ffugenw: Alun
Dyddiad geni: 1797
Dyddiad marw: 1840
Priod: Matilda Blackwell (née Dear)
Rhiant: Mary Blackwell
Rhiant: Peter Blackwell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Mab Peter a Mary Blackwell, Ponterwyl, yr Wyddgrug. Ni chafodd ddim addysg ffurfiol yn blentyn, ac yn 11 oed prentisiwyd ef yn grydd gyda William Kirkham, gwr a ymddiddorai mewn barddoniaeth. Darllenodd lawer yn Gymraeg a Saesneg, a dechreuodd ddilyn cymdeithasau Cymreigyddion a chystadlu mewn eisteddfodau. Enillodd mewn eisteddfod yn yr Wyddgrug yn 1823 am awdl ar 'Maes Garmon,' ac yn Rhuthyn yr un flwyddyn ar awdl ar 'Genedigaeth Iorwerth II.' Enillodd hefyd ar draethodau, a thua'r un adeg ysgrifennodd rai llythyrau i'r Gwyliedydd. Dug hyn ef i sylw boneddigion ac offeiriaid, a chodwyd arian i dalu am addysg iddo.

Yn Ionawr 1824 aeth i Aberriw at Thomas Richards i'w baratoi at fyned i brifysgol, ac ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn aeth i Goleg Iesu Rhydychen; graddiodd yn 1828. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen daliodd i gystadlu rhywfaint - gwobrwywyd ei farwnad i'r esgob Heber yn eisteddfod Dinbych yn 1828, a darllenodd bopeth y medrai gael gafael arno yn llyfrgell Bodley a llyfrgell ei goleg ar hanes Cymru a'i llenyddiaeth. Yn 1829 urddwyd ef yn gurad Holywell, ac yn 1833 fe'i penodwyd yn rheithor Maenordeifi. Bu'n olygydd Cylchgrawn y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol , a gyhoeddid o dan nawdd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, am y flwyddyn a hanner y bu'r cyhoeddiad hwnnw byw, 1834-1835.

Yn 1839 priododd Matilda Dear, Pistyll, ger Holywell. Bu farw 19 Mai 1840, ac y mae tabled marmor er cof amdano ar fur eglwys Maenordeifi.

Ei weithiau mwyaf arbennig fel bardd yw ei gerddi rhydd, 'Rhywun,' 'Cerdd Hela,' 'Cathl i'r Eos,' 'Cân Gwraig y Pysgotwr,' ac ' Abaty Tintern' (cyfaddasiad o gân Saesneg, oll ond y pedair llinell olaf). Yn y rhain gwelir blaenffrwyth y canu telynegol a gynhyrchwyd gan y mudiad rhamantaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.