Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BLEDDYN ap CYNFYN (bu f. 1075 ), tywysog .

Mab Cynfyn ap Gwerstan (gwr na wyddys ddim arall amdano) ac Angharad , gweddw Llywelyn ap Seisyll (bu f. 1023 ) , a mam yr enwog Gruffudd ap Llywelyn (bu f. 1063 ) .

Rhoddir ach urddasol i Gwerstan gan awdurdodau diweddar, ond y mae naws gair yn deillio o'r Saesneg Werestan ar yr enw. A hwythau yn hanner-brodyr i Gruffudd , dilynodd Bleddyn a Rhiwallon ef, ond nid yn annibynnol bellach eithr yn talu gwrogaeth i Edward y Cyffeswr ac yn gynghreiriaid ag ef. Dilynasant ôl traed Gruffudd trwy ymgyfathrachu a Mercia a helpu gwyr Mercia yn eu hymdrech yn erbyn William y Concwerwr , gan gynorthwyo Edric Wyllt yn 1067 pryd yr anrheithiasant swydd Henffordd cyn belled â'r afon Lugg , a hefyd Edwin a Morcar yn 1068 .

Yn y flwyddyn 1070 bu raid iddynt gyfarfod â bygythiad yn nes adref; heriwyd eu gallu gan ddau o feibion Gruffydd ym mrwydr Mechain , pryd yr enillodd Bleddyn , yr unig un ohonynt na chollodd ei fywyd. Bygythid ef yn awr gan y Normaniaid a oedd yn graddol ennill eu ffordd i Ogledd Cymru ; yn 1073 medrodd Robert o Ruddlan ymsefydlu ar lannau'r afon Clwyd ac ychydig yn ddiweddarach ddod yn ddisymwth ac yn ddirgel ar warthaf Bleddyn a pheri i'r arweinydd Cymreig golli llawer o ysbail a bod bron a chael ei gymryd yn garcharor.

Daeth pen ar ei yrfa yn 1075 pan drefnodd Rhys ab Owain a gwyr mawr Ystrad Tywi iddo farw. Cwynid yn fawr yng nghanolbarth Cymru o achos y trychineb, ac felly pan lwyddodd ei gefnder Trahaearn ap Caradog i drechu Rhys ym mrwydr Gwdig yn 1078 a'i anfon ar ffo yn ffrwst credid bod dial wedi cael ei wneuthur mewn modd arbennig.

Rhoddir clod uchel i Fleddyn yn y cronicl a gedwid y pryd hyn yn Llanbadarn . Yr oedd rhinweddau'r tywysog delfrydol ynddo — tiriondeb tuag at elyn, caredigrwydd, hynawsedd, haelfrydedd tuag at y tlawd a'r diamddiffyn, a pharch i hawliau'r Eglwys . Gellir credu llawer o'r canmol hwn wrth gofio ei fod yn un o'r ychydig dywysogion a wnaeth ddiwygio cyfraith Hywel Dda . Ymhlith y cenedlaethau dilynol fe'i cofid ef fwyaf fel cyndad holl dywysogion diweddarach Powys o achos i'w feibion ymhen ychydig amser wedi iddo farw lwyddo i'w sefydlu eu hunain yn rheolwyr ar yr holl dalaith honno.

Ffynonellau:

  • J. E. Lloyd, A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , 367, 369, 372, 374, 377-8, 382, 392-3.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54