BLETHIN, WILLIAM, esgob Llandaf o 1575 hyd 1590

Enw: William Blethin
Priod: Ann Blethin
Priod: Anne Blethin (née Young)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Lawrence Thomas

Yr oedd yn Gymro Cymraeg a ganwyd ef yn Shirenewton Court, sir Fynwy, o linach Hywel Dda; yr oedd ei gâr Morgan Blethin yn abad Llantarnam yn 1532.

Priododd Blethin Anne Young, nith Thomas Young, prifathro Broadgates Hall, Rhydychen (esgob Tyddewi ac archesgob Caerefrog wedi hynny). Pan fu Anne farw yn 1589 priododd Blethin Anne arall yr un flwyddyn. Cafodd ei addysg yn New Inn (neu Broadgates) Hall, Rhydychen. Yn 1559 yr oedd yn rheithor Sunningwell, swydd Berks; y flwyddyn ddilynol fe'i disgrifir yn rheithor Rogiet, sir Fynwy, er nad yn breswyl gan ei fod yn parhau i astudio yn Rhydychen. Yr oedd hefyd yn ganon (S. Dyfrig) yn eglwys gadeiriol Llandaf. Yn 1562 cafodd radd B.C.L. a'i ddewis yn ganon (Osbaldkirk) yn eglwys gadeiriol Caerefrog. Yr oedd yn rheithor preswyl Rogiet o 1563 hyd 1570, a hefyd yn archddiacon Brycheiniog.

Fe'i cysegrwyd yn esgob Llandaf, 17 Ebrill 1575, gan yr archesgob Parker, a chafodd ganiatâd arbennig i ddal y bywiolaethau a'r swyddi eraill hefyd oherwydd tlodi sedd Llandaf. Fe'i profodd ei hun yn weinydd cryf, yn ddisgyblydd llym, ac yn elyn cryf i'r rhai na chydffurfiai. Cofir amdano'n arbennig yn herwydd ei ystadudau; yn y rhain gosodwyd allan ganddo beth oedd statws yr esgob, pa le yr oedd y canoniaid a'r ficeriaid corawl i fyw a pha beth oedd eu dyletswyddau, sut yr oeddid i ofalu am eiddo, adeiladau, a chynnwys yr eglwys gadeiriol, a sel, dogfennau, a chofnodion y cabidwl. Bu farw 15 Hydref 1590 a chladdwyd ef yn eglwys Mathern, ond nid oes yno gofadail iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.