BODVEL (TEULU), Bodfel, Sir Gaernarfon, Caerfryn, sir Fôn, etc.

Y mae teulu Bodvel yn olrhain eu tras i Gollwyn ap Tangno. Daethant i sylw gyntaf ym mherson JOHN WYN AP HUGH, Bodvel (bu farw 1576), a gariai'r faner frenhinol dros iarll Warwick (Northumberland wedi hynny), ac a wobrwywyd trwy gael Ynys Enlli. Carcharwyd ei fab HUGH GWYN (BODVEL), a fu farw 1611, am iddo wrthwynebu iarll Leicester (mab noddwr ei dad) pan oedd hwnnw yn ' Ranger of Snowdon Forest '; tra bu yng ngharchar rhoddwyd comisiwn i Nicholas Robinson, esgob Bangor, ac Elis Prys i chwilio i mewn i'w berthynas - fel 'known papist ' - â'i frawd-yng-nghyfraith Hugh Owen, Plas-du (1538 - 1618), a oedd yn alltud yn Brussels. Ni chafwyd tystiolaeth a'i gwnâi yn euog ac, yn 1589, ar ôl iddo ymgymodi â Leicester, gwnaethpwyd Bodvel yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon; bu hefyd yn siryf y flwyddyn honno ac yn 1597.

ROGER GWYNNE (1577 - 1605?), offeiriad Catholig a chenhadwr

Mab neu frawd iau i Hugh Gwyn (Bodvel). Pan oedd yn ieuanc daeth dan ddylanwad y Tad William Davies (bu farw 1593), ac yng ngofal hwnnw ac ar ei ffordd i'r Iwerddon yr oedd ef (a thri arall a oedd hefyd yn bwriadu paratoi ar gyfer yr offeiriadaeth), a than ofal Robert Pugh, Penrhyn, pan gymerwyd ef a hwythau i'r ddalfa yng Nghaergybi (1591) a'u carcharu am dri mis ym Miwmares; gwrthododd y tri ddatgyffesu er iddynt ddioddef artaith. Pan ryddhawyd ef aeth Gwynne i Sbaen a dechrau astudio yn ysgol y Catholigion yn Valladolid yn 1596. Ordeiniwyd ef yn 1602 a chafodd ei anfon i'r genhadaeth yng Nghymru y flwyddyn ddilynol eithr daliwyd y llong yr oedd arni pan oedd ar ei ffordd i Abertawe; holwyd Gwynne gan yr awdurdodau ac anfonwyd ef i Dwr Llundain a'i gyhuddo (er nad mewn llys) o gyffesu iddo fod yn cynllwyn i ladd Iago I. Awgryma Gardiner (Hist., i, 106) i'r 'gyffes' hon beri i'r blaid a oedd yn elynol i Sbaen yng nghyngor y brenin deimlo ei bod wedi ennill buddugoliaeth; eithr hwy, efallai, a ddyfeisiodd y 'gyffes.' Cadwyd Gwynne yn y Twr hyd 1605 ac ni chlywyd sôn amdano wedyn.

ROBERT GWYNNE (fl. 1578)

Y mae'n bosibl ei fod o'r un teulu, ond ni ddaeth golau ar ei dras ef hyd yn hyn (gweler dan Gwynne).

CHARLES GWYNNE, alias Bodvel neu Bodwell, alias Browne (1582 - 1647), cenhadwr dros y Jesiwitiaid

Mab oedd ef i Thomas Wynn, Boduan, ger Pwllheli (mab iau John Wynn ap Hugh Bodvel), ac Elisabeth, merch Owen ap Gruffydd, Plas Du, a chwaer Hugh Owen. Magwyd Charles yn Brotestant a bu dan addysg ('learned grammar') yn ei sir ei hun, ond wedi iddo ymgymodi â Rhufain (trwy offerynoliaeth y Tad J. Chambers) pan oedd yn ymweld â Hugh Owen yn Brussels aeth i'r Coleg Seisnig yn Rhufain, lle yr ordeiniwyd ef yn 1613. Fe'i danfonwyd yn 1623 ar genhadaeth Gymreig St. Francis Xavier. Gwnaethpwyd y Cwm, Llanrhyddol, yn bencadlys talaith newydd Cymdeithas Iesu ym 1622 a'i alw yn goleg S. Xaverius. Bu'r tad, John Salusbury, farw yn 1625 a dilynwyd ef yn y rheithoriaeth gan Bodvel.

Cafodd gan ei ewythr Hugh Morgan, Hilton, foddion i gynnal Cymro fel efrydydd yn Rhufain, ac felly y gallodd David Lewis (bu farw 1679), nai y Tad Augustine Baker (1575 - 1641), fynd i'r Coleg Seisnig yn 1638. Yn 1618 cafodd Gwynne arian Hugh Owen a ddietifeddiasai yr aer cyfreithiol, John Owen yr epigramydd, am fod llyfrau hwnnw wedi eu dodi ar 'Index' y pab, sef ymhlith gweithiau y gwaherddid i ddeiliaid Eglwys Rufain eu darllen. Rhoes Gwynne dabled yn y Coleg Seisnig i goffa Hugh Owen (Archæologia Cambrensis, II, iv, 130-1).

JOHN BODVEL (neu BODVILLE) (1617 - 1663), cyrnol ym myddin y brenin Siarl I

Mab ac aer Syr John Bodvel, a wnaethpwyd yn farchog yn 1614 ac a fu farw 1631; wyr Hugh Gwyn Bodvel, ac Elisabeth, merch Syr John Wynn, Gwydir, ydoedd ef. Aeth i'r Middle Temple yn 1633, ac yn 1640 priododd Ann, merch Syr William Russel, Chippenham, swydd Caergrawnt, cyd-drysorydd y llynges. Bu'n aelod seneddol dros sir Fôn (lle y cawsai ei daid ystad Caerfryn, trwy briodas) yn y Senedd Fer a'r Senedd Faith, gan ochri gyda'r Protestaniaid hynny a oedd yn gwrthwynebu llys y brenin; fe'i dewiswyd (Mawrth 1642) gan Dy'r Cyffredin yn ddirprwy-arglwydd-raglaw sir Gaernarfon.

Ar 2 Awst 1642 caniatawyd iddo ei absenoli ei hun o'r Ty a chafodd hefyd offer rhyfel er mwyn iddo gael amddiffyn 'ei gartref yng Nghymru '; ychydig yn ddiweddarach, fodd bynnag, ymunodd â phlaid y brenin, fe'i gwnaethpwyd yn 'custos rotulorum' sir Fôn yn 1643, a bu yn y Senedd a gyfarfu yn Rhydychen fis Ionawr 1644 - cafodd radd D.C.L. yno yr un pryd. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno aeth Bodvel a'i deulu i Gaerfryn, a bu'n amlwg i ddechrau fel llywodraethwr Caernarfon, yna fel cyrnol yn amddiffyn Môn, ac wedi hynny yn y drafodaeth cyn traddodi'r ynys i'r blaid arall fis Gorffennaf 1646.

Atafaelwyd ei ystadau fis Tachwedd 1647 a bu raid iddo hefyd dalu dirwyon oherwydd iddo gynorthwyo pleidwyr y brenin a wrthryfelodd yn sir Fôn yn 1648. Ffodd dros y môr pan ddienyddiwyd y brenin, a phan ddychwelodd rhoddwyd ei enw yn Act seneddol 1651 a oedd yn delio a mater gwerthu eiddo'r 'delinquents'; ni werthwyd mo'i eiddo ef, fodd bynnag, ac ym mis Ebrill 1655 peidiwyd â'i gyfrif ymysg y 'delinquents.'

Cyn belled yn ôl â 1646 yr oedd ei wraig, a oedd yn Biwritan selog, wedi apelio at Dy'r Arglwyddi am gael symud y plant o ofal eu tad oherwydd yr esiampl ddrwg a roddai ef iddynt; yn 1657 trefnodd hi, heb ei ganiatad ef, briodas rhwng eu hail ferch Sarah, a oedd yn nodedig am ei phrydferthwch, a Robert, mab yr Arglwydd Robartes, Presbyteriad cyfoethog yng Nghernyw a ' field marshal ' ym myddin Cromwell. Gwrthododd Bodvel gydnabod y briodas ond wedi'r Adferiad (1660) fe ildiodd a daeth yn dad bedydd i'w ail wyr, Charles Bodvel Robartes, gan addo ei wneuthur yn aer iddo'i hun a rhoddi iddo addysg Gymreig.

Fodd bynnag, buasai ei berthynas, Thomas Wynn, Boduan (bu farw 1673), wyr y Thomas Wynn a enwir uchod (gweler dan Charles Gwynne, 1582 - 1647), a chyndad yr Arglwydd Newborough cyntaf, am beth amser cyn hyn yn cynllwyn i gael ystadau Bodvel; llwyddodd i beri i Bodvel droi yn erbyn ei deulu, trefnodd iddo ymguddio yn Llundain rhag y bobl a oedd am iddo dalu arian echwyn yn ôl iddynt, a phan oedd yn y cyflwr tlawd a gresynus hwn, ac yn wael o ran ei iechyd a'i feddwl, gwnaeth Bodvel ewyllys newydd (1662) a gadael ei ystadau i fab Wynn, sef Griffith (a gymerth yr enw Bodvel) ac i gâr arall.

Pan fu John Bodvel farw (Mawrth 1663) daeth yr Arglwydd Robartes a'i fab â chyngaws yn llys y Chancery ac yn Nhy'r Arglwyddi yn erbyn yr ewyllys honno, a llwyddasant, yn 1666, i gael pasio gweithred seneddol yn ei diddymu o blaid CHARLES BODVEL ROBARTES (1660 - 1697), a ddaeth yn ddiweddarach yn ail iarll Radnor yn 1685; buasai brawd hyn Charles farw. Pan oedd ef o dan oed trwyddedwyd Bodvel House (o dan y Declaration of Indulgence, 1672) yn lle y câi Independiaid gyfarfod ynddo i addoli, a bu James Owen (1654 - 1706) yn byw yno am beth amser. Buwyd yn ceisio trefnu priodas rhwng Charles Bodvel Robartes a theulu Gwydir, ond rhoddwyd terfyn ar y cynigiadau yn 1679, pan oedd ef yn 19 oed. Pan fu farw ei dad (yn 1682) dilynodd ef yn faer Caernarfon a chwnstabl y castell; pan ddaeth yn iarll, fodd bynnag, gwerthodd ei ystadau Cymreig; cadwodd ei swyddi yng Nghymru (swydd ' Chief Ranger of Snowdon ' yn eu plith), gan drefnu i'r dyletswyddau a oedd yn gysylltiedig a hwy gael eu cyflawni gan eraill drosto, ac aeth i fyw i Lundain lle y daeth yn gyfeillgar iawn â'r Deon Swift.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.