BOWEN, DAVID (1774 - 1853), Felinfoel, gweinidog

Enw: David Bowen
Dyddiad geni: 1774
Dyddiad marw: 1853
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Morris Brynllwyn Owen

Ganwyd yn Bryn Bach, Felinfoel, 11 Rhagfyr 1774. Bedyddiwyd ef gan Daniel Davies, Felinfoel, 14 Mai 1797, a dechreuodd bregethu yn 1798. Urddwyd ef 25 Awst 1806 gan Titus Lewis a Joshua Watkins, Caerfyrddin, i fod yn gydweinidog a Daniel Davies, a chartrefai ym Mhontlludw. Yn 1831 ffurfiwyd Seion, Llanelli, yn eglwys, a dewiswyd Bowen ganddi i'w bugeilio. Treuliodd weddill ei oes i'w gwasanaethu a bu farw 18 Tachwedd 1853.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.