BOWND, WILLIAM (fl. c. 1658), Bedyddiwr Arminaidd

Enw: William Bownd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Bedyddiwr Arminaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Trigai yn Garth Fawr ym mhlwyf Llandinam, Trefaldwyn, ond addolai gyda Bedyddwyr Arminaidd Maesyfed. Nid oes cofnod iddo dderbyn tâl am weinidogaethu ar ôl 1658. Dadleuodd yn gyhoeddus â'r Crynwyr Alexander Parker a John Moon yn Scurwy, fferm gerllaw Rhaeadr, Maesyfed (gweler HUGH EVANS, (bu farw 1656). Bu farw'n ieuanc a phriododd ei weddw a William Price, Bucknell. Gyda John Price, Maesygelli, plwyf Nantmel, Maesyfed, cyhoeddodd Bownd y gyfrol The Sun Outshining the Moon (Llundain, 1658).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.