BRADNEY, Syr JOSEPH ALFRED ('Achydd Glan Troddi'; 1859 - 1933), hanesydd sir Fynwy

Enw: Joseph Alfred Bradney
Ffugenw: Achydd Glan Troddi
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1933
Priod: Florence Bradney (née Prothero)
Priod: Rosa Bradney (née Jenkins)
Plentyn: Walter Bradney
Rhiant: Joseph C. Bradney
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd sir Fynwy
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 11 Ionawr 1859, yn unig fab Joseph C. Bradney, rheithor Greete, Swydd Amwythig. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn 1881. Bu cysylltiad rhyngddo â'r milisia ac â'r fyddin o 1882, pryd y'i ceir yn gapten ym milisia sir Fynwy, hyd ar ôl rhyfel 1914-8.

Gwasanaethodd ei wlad mewn llu o gylchoedd; ar gyngor sir Mynwy, fel ynad heddwch, siryf, ac is-raglaw yn ei sir, yn aelod blaenllaw o gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Amgueddfa Genedlaethol, yn aelod o'r Royal Commission on Ancient Monuments in Wales, o urdd S. John of Jerusalem, etc.

Eithr fel hanesydd sir Fynwy ac un a gyhoeddodd lawer o ddefnyddiau eraill at wasanaeth haneswyr y cofir am Bradney. Cyhoeddwyd rhan gyntaf ei History of Monmouthshire yn 1904, a rhan o'r bedwaredd gyfrol yn 1932, ond ni chafodd yr awdur fyw i orffen y gyfrol hon. Cyhoeddwyd cyfrol 5 o History of Monmouthshire (gol. Madeleine Grey) yn 1993.

Heblaw'r History of Monmouthshire fe gyhoeddodd Bradney lu o lyfrau ac erthyglau, megis: (a) Genealogical Memoranda relating to the families of Hopkins of Llanfihangel Ystern Llewern, co. Monmouth, and Probyn of Newland, co. Gloucester (1889); (b) The Diary of Walter Powell (1907); (c) Acts of the Bishop of Llandaff (1908); (d) Llyfr Baglan (1910); (e) Hanes Llanffwyst gan Thomas Evan Watkins , ' Eiddil Ifor ' (1922); (f) A Dissertation on Three Books (1923); (g) A History of the Free Grammar School in the Parish of Llantilio Crossenny (1924); (h) A Survey of the general history of the town of Newport and district (1925); (i) A Memorandum, being an attempt to give a chronology of the decay of the Welsh language in the Eastern part of the County of Monmouth (1926). Cyhoeddodd hefyd Noctes Flandricae (Llundain), casgliad o gerddi a rhyddiaith a gyfansoddwyd gan mwyaf yn Fflandrys yn 1917. Ceir o leiaf ddau waith ganddo yn Lladin, sef Carmina jocosa (1916) a Carmen arall a gyfansoddodd yn 1923 pan gafodd radd D.Litt. Prifysgol Cymru. Copïodd a chyhoeddodd gofrestri eglwysi plwyfi Llantilio Crossenny a Phenrhos (1916), Llanbadog (1919), Llanddewi Rhydderch (1919), Caerwent a Llanfair Discoed (1920), a Grosmont (1920). Ysgrifennodd hefyd i gylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru.

Daeth i'w ran, yn rhinwedd ei wasanaeth i'w wlad ac ysgolheictod ei gyhoeddiadau, lawer o anrhydeddau. Fe'i dyrchafwyd yn C.B. yn 1911, cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1924, a chael gradd D.Litt. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru yn 1923. Bu'n briod ddwywaith, y tro cyntaf â Rosa (bu farw 1927), merch Edward Jenkins, Nantygroes, sir Faesyfed, a'r ail dro a Florence, merch Francis E. Prothero, Malpas Court. Medrai Gymraeg yn bur dda a pharhaodd i ysgrifennu Lladin hyd ei farw, 21 Gorffennaf 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.