BREEZE, EVAN (1798 - 1855), bardd

Enw: Evan Breeze
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn Nôl Hywel, plwyf Llangadfan, Sir Drefaldwyn - yr oedd yn ŵyr i William Jones o'r un lle. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel ysgolfeistr a bu hefyd yn pregethu gyda'r Wesleaid.

Ei enw barddol oedd Ieuan Cadfan. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o ganeuon, y rhan fwyaf ohonynt yn garolau ac yn gerddi crefyddol. Un o'r cyfrolau oedd Yr Odlydd Cysurus, Cyfaill i'r trallodusyn cynnwys amrywiol ddyriau, cofiant am rai anwylion … carolau … emynau, etc. (H. Jones, Llanrwst, 1839). Bu farw yn Llanerfyl ar 3 Ebrill 1855, ac yno y claddwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.