BREESE, JOHN (1789 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: John Breese
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1842
Priod: Margaret Breese (née Williams)
Plentyn: Edward Breese
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Llanbrynmair, Medi 1789. Yn yr ysgol Sul y cafodd ei brif hyfforddiant ym more oes; derbyniwyd ef yn aelod yn 20 oed yn yr Hen Gapel o dan weinidogaeth John Roberts, a phan yn 24 oed anogwyd ef i ddechrau pregethu. Drwy gymorth cyfeillion anfonwyd ef i ysgol yn Amwythig ac oddi yno derbyniwyd ef i athrofa Llanfyllin a oedd newydd symud yno o Wrecsam o dan ofal y Dr. George Lewis. Yn ystod ei dymor yno daeth i sylw fel pregethwr, ac yn 1817 cafodd alwad i ofalu am eglwys Edmund Street, Lerpwl, a symudwyd yn fuan wedyn i'r Tabernacl, Great Crosshall Street. Llafuriodd yn galed yma am 17 mlynedd er hyfforddi'r achosion Cymraeg yn y ddinas a mynych y cerddai ôl a blaen i Fanceinion i wasanaethu'r eglwys yno.

Daeth yn adnabyddus fel pregethwr led-led Cymru, ac ef a Williams 'o'r Wern' yn y cyfnod hwn a elwid amlaf i'r uchel wyliau. Yn 1835 symudodd i ofalu am eglwys Heol Awst, Caerfyrddin, ond buan y dechreuodd ei iechyd ddadfeilio, a bu farw 8 Awst 1842; ym mynwent Heol Awst y claddwyd ef.

Pregethwr athrawiaethol ydoedd, a phrin y medrai ei wrandawyr ei ddilyn bob amser, ond gan mor angerddol y traethai, anfynych y methai â'u hennill yn llwyr. Ceir erthygl o'i eiddo yn y gyfrol a sgrifennodd John Roberts, Llanbrynmair i bleidio'r 'System Newydd' sef Galwad Ddifrifol a ddaeth i'w hadnabod fel 'Y Llyfr Glas.' Mab iddo oedd yr hynafiaethydd Edward Breese.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.