BREWER, JEHOIADA (1752 - 1817), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac emynydd

Enw: Jehoiada Brewer
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1817
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd tua 1752 yng Nghasnewydd-ar-Wysg. Ar gymhelliad gweinidog gydag enwad yr arglwyddes Huntingdon aeth i goleg Trefeca, ac ar gyfrif hynny nis derbyniwyd am urddau eglwysig. Ymrôdd i bregethu yn nhueddau Bath, a daeth hefyd yn hynod boblogaidd ym Mynwy. Bu'n gweinidogaethu yn Rodborough (Swydd Gaerloyw) a Sheffield (Queen-street), 1783-95. Yn 1795 ymsefydlodd yn weinidog capel Carr's Lane, Birmingham, ar ôl y Dr. Edward Williams, Rotherham. Arweiniodd blaid allan o Carr's Lane yn 1802, i Livery-street. Bu farw 24 Awst 1817, a hwythau wrthi'n codi capel newydd yn Steel-house Lane iddo. Cyhoeddwyd rhai o'i bregethau a daeth rhai o'i emynau yn dra phoblogaidd, megis 'Hiding Place' a 'Star of Bethlehem' a droswyd yn Gymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.