BRISCOE, THOMAS (1813 - 1895), offeiriad ac ysgolhaig yn yr ieithoedd clasurol a Hebraeg

Enw: Thomas Briscoe
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1895
Rhiant: Richard Briscoe
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac ysgolhaig yn yr ieithoedd clasurol a Hebraeg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Williams James

Ganwyd yn Wrexham, 30 Mehefin 1813, mab Richard Briscoe, fferyllydd. Addysgwyd ef yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen (B.A. yn y dosbarth cyntaf yn y clasuron, 1833; M.A., 1836; B.D., 1843; D.D., 1868). Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon, 1836, ac yn offeiriad, 1837, gan esgob Rhydychen. Bu'n gymrawd Coleg Iesu, Rhydychen, 1834-1859; yn athro yno, 1835-9; ac yn is-brifathro, 1849-1858. Cafodd ei wneuthur yn gurad-parhaol Henllan, sir Ddinbych, 1830-1840, yn ficer Caergybi, 1858-1895, ac yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor yn 1877.

Yr oedd Briscoe 'n ysgolhaig da yn yr ieithoedd hen a diweddar, y Gymraeg yn eu plith. Yn 1851 cyfieithodd yn Gymraeg, o'r Almaeneg, waith Ellendorff ar y testun Ist Petrus in Rom und Bischof der Romischen Kirche gewesen? Cyfieithodd y llyfrau canlynol o'r Hebraeg : Esaiah 1853, Job 1854, y Psalmau a'r Diarhebion 1855; yn 1894 cyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg gyda darlleniadau'r fersiwn ddiwygiedig Saesneg. Bu farw 16 Chwefror 1895. Rhoddwyd ei lyfrgell i lyfrgell eglwys gadeiriol Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.