BROCHWEL YSGYTHROG, neu yn fwy cywir 'Ysgithrog,' h.y. y gŵr â'r ysgythrddant (fl. 550), tywysog

Enw: Brochwel Ysgythrog
Plentyn: Tysilio
Plentyn: Cynan Garwyn
Rhiant: Cyngen Glodrydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Yn ôl traddodiad efe oedd y person mwyaf trawiadol yn hen linach tywysogion cynnar Powys, yn gymaint felly ag y daeth y beirdd i alw Powys yn wlad Brochwel. Mab ydoedd i Cyngen a thad Cynan Garwyn a'r sant Tysilio, sefydlydd hen eglwys Meifod. Gan i'w ŵyr, Selyf ap Cynan, gwympo yn y gad wrth arwain y Cymry ym mrwydr Caer (c. 613), nid Brochwel mo'r ' Brochmail ' y dywed Beda iddo chwarae rhan llwfrddyn ar yr un amgylchiad. Yn ôl ystori Melangell, santes Pennant, yn cael ei chadarnhau gan Gerallt Gymro, yr oedd ganddo sedd frenhinol yn Amwythig, sedd nas cymerasid hyd yn hyn gan y Merciaid ac a elwid o dan yr enw Cymraeg Pengwern; weithiau dywedir mai dyma'r man y mae castell Amwythig arno yn awr, eithr ar brydiau eraill dywedir mai lle y saif eglwys S. Chad (Hen) yr oedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.