BROMLEY, HUMPHREY (ganwyd 1796), pregethwr Undodaidd

Enw: Humphrey Bromley
Dyddiad geni: 1796
Rhiant: Jane Bromley
Rhiant: Humphrey Bromley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Enid Pierce Roberts

Haedda sylw am mai ef, mae'n debyg, oedd y pregethwr Undodaidd cyntaf yng Ngogledd Cymru. Ganwyd 17 Mai 1796, yn fab i Humphrey (garddwr) a Jane Bromley, Tre-brys, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Dinbych. Garddwr oedd yntau fel ei dad, ond cadwai ysgol hefyd mewn llofft yn ymyl Pont Maes Mochnant, ac ynddi 'o leiaf 50 o blant.' Eglwyswr oedd ar y cychwyn, ond troes yn bregethwr Undodaidd; cynhelid ef yn ariannol gan siopwr o'r enw Lloyd yn y pentre. Yn 1825 a 1826, pregethodd yng nghymanfa flynyddol Cymdeithas Ddwyf-undodaidd Deheudir Cymru. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1833 a bu farw yno ar 13 Rhagfyr 1876 (Universalist Register, 1878, t. 86)

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.