BRYAN, JOHN (1776 - 1856), gweinidog Wesleaidd

Enw: John Bryan
Dyddiad geni: 1776
Dyddiad marw: 1856
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Ganwyd yn Llanfyllin, lle y treuliodd ran helaeth o'i febyd gydag un John Rogers, ei ewythr. Symudodd i Amwythig pan yn 12 oed, ac yn ystod y blynyddoedd wedyn i Gorwen, Bala, a Wrecsam; yn 1798 aeth i weithio yn siop ddillad y boneddigesau Williams, merched Richard Williams, Rackery, ger Gresford. Cafodd droedigaeth yn Rhagfyr 1798 ac ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yng Nghaer, ond yn fuan iawn ymaelododd yng nghapel Wesleaidd yr Octagon yn y ddinas. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol yn Chwefror 1800, ac yn ystod y deunaw mis dilynol bu'n gymorth mawr i Owen Davies a John Hughes, y ddau genhadwr a anfonwyd gan y gynhadledd Wesleaidd i Ogledd Cymru yn 1800. Aeth i'r weinidogaeth yn 1801 a theithiodd ar amryw o gylchdeithiau yng Nghymru tan 1815. Bu'n teithio yn Lloegr o 1815 ymlaen, ond gadawodd y weinidogaeth yn 1824 ac ymsefydlu yn Leeds fel groser a marsiandwr te. Dychwelodd i Gymru yn 1831 oherwydd afiechyd ei wraig, ac ymsefydlodd fel groser yng Nghaernarfon. Bu'n weithgar yno fel pregethwr cynorthwyol hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farw, 28 Mai 1856.

Ar adegau yr oedd Bryan braidd yn fyrbwyll ac annoeth, a'i fflachiadau o arabedd yn peri loes. Eithr yr oedd yn ychwanegiad gwerthfawr at rengoedd y cenhadon Wesleaidd Cymreig ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif ac yn gyfrwng i ennill llawer at grefydd ac at yr eglwys a wasanaethodd mor hir - yn rhinwedd ei gyfieithiadau yn Gymraeg o rai o emynau John a Charles Wesley a rhai o draethodau diwinyddol Owen Davies; ei amddiffyniad o Arminiaeth; ac yn bennaf oll ei ddoniau fel pregethwr gwreiddiol ac effeithiol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.