BRYANT, JOHN (Alawydd Glan Tâf; 1832 - 1926), telynor

Enw: John Bryant
Ffugenw: Alawydd Glan Tâf
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1926
Rhiant: Daniel Bryant
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Castellau, Llantrisant, Morgannwg, 1 Chwefror 1832, mab i Daniel Bryant, Efailisaf, Llantrisant. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan Llewelyn Williams ('Alawydd y De'), a bu o dan ei ddisgyblaeth am ddwy flynedd. Yr oedd yn chwaraeydd medrus ar y delyn bedal, a gwasanaethodd mewn llawer o eisteddfodau a chyngherddau yn Neheudir Cymru, ac fel beirniad mewn rhai eisteddfodau. Trefnodd amrywiadau i'r delyn ar ' Merch Megan.'

Bu farw 5 Ionawr 1926, a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Efailisaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.