Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BULKELEY (TEULU), sir Fôn , etc.

Un o'r teuluoedd mwyaf pwerus yng Nghymru i gyd; eu pencadlys oedd Baron Hill ger Biwmares . Yn eu llawn dwf yr oedd iddynt diroedd yn chwe chwmwd Môn , a buddiannau lawer yng ngorynys y Creuddyn , tre Conwy , a dau gwmwd Arllechwedd ; dalient eiddo pwysig ar draeth Hirael ym Mangor ac yn nhre Caernarfon ; drwy briodas y 6ed Viscount ag Emma , merch ac aeres Thomas Rowlands o'r Caerau , cawsant yr ystad honno yng ngogledd-orllewin Môn a thiroedd Plas y Nant ger Betws Garmon a ymestynnai heibio i Ryd-ddu i ochrau'r Wyddfa ac i'w phen. Yng nghwrs y blynyddoedd tyfodd rhai o'r meibion ieuengaf yn bobl bwysig yn eu nerth eu hunain, gan sefydlu is-deuluoedd o gryn ddylanwad. Yn gynnar yn y 16fed g. , er enghraifft, daw Bwcleaid Porthamel i sylw, cangen a ddaeth i ddiwedd adfydus pan saethodd Francis Bulkeley ei hun ym Mhlas Llangefni yn 1714 , a hefyd Fwcleaid y Gronant a'r Dronwy — cynrychiolid hwy mewn oes ddiweddarach gan Syr John Bulkeley o Bresaddfed , a'i weddw a briododd y Parch. John Elias ; ymhellach ymlaen yn yr un ganrif daeth cangen y Brynddu i fri, a gynrychiolid yn hanner cyntaf y 18fed g. gan William Bulkeley y dyddiadurwr . Canghennau eraill, ond llai pwysig, oedd Bwcleaid y Cremlyn , Cleifiog , Plas Goronwy , a Thy'n-y-caeau .

Yng ngogledd-ddwyrain sir Gaerlleon yr oedd hen gartref y teulu. Pa bryd yn hollol y bu'r mudo i'r gorllewin ni wyddys, ac nid oes brawf pendant mai ym Miwmares y gwladychasant gyntaf (cyfeiria rhai digwyddiadau at Gonwy ). Y mae'n ddiogel dywedyd eu bod ym Môn cyn 1450 ; ddwy flynedd cyn hynny yr oedd un ohonynt wedi priodi Alice , merch Bartholomew de Bolde , dinesydd o Gonwy a grafangiodd beth wmbredd o dir ar ochr chwith yr afon a ddaeth yn sylfaen sicr i nerth y Bwcleaid yn y rhan yma o Arllechwedd .

Aed ymlaen yn brysur i brynu tyddynnod ym Môn ac Arfon ; tyfodd y teulu mewn grym a dylanwad hyd nes i un ohonynt gael ei urddo'n farchog (o gylch 1534 ), a phenodwyd brawd i hwnnw'n esgob Bangor . Y mwyaf o'r marchogion cynnar, yn ddi-ddadl, oedd y 3ydd — ef oedd y penteulu o 1572 i 1621 — cyfaill i'r frenhines Elisabeth a gelyn diamodol i gynlluniau'r iarll Leicester yng Nghymru . Am genhedlaeth wedi ei farw ef, aeth gogoniant Baron Hill o dan gwmwl; dyma'r pryd y dywedid i'r 4ydd marchog gael ei wenwyno, y priododd ei weddw gyda'r gwenwynwr tybiedig Syr Thomas Cheadle , yr hir ymgiprys cyfreithiol yn y Sesiwn Fawr , y dedfrydau amhendant, ac amryw farwolaethau eraill ymhlith wyrion y 3ydd Syr Richard a fu f. yn 1621 . Effaith hyn oedd dwyn Thomas , un o'i feibion ieuengaf, i ddod i unbennaeth Baron Hill ; digwyddiad annisgwyl, gan fod y Thomas hwn, ers blynyddoedd, wedi ei anfon gan ei dad i arolygu tiroedd Bwcle yn Arllechwedd Uchaf (yn wir, meddyliodd yr hen ŵr unwaith agor y drws iddo fyned i Virginia i droi olwynion ffawd yno). Prin yr oedd wedi dod i awdurdod ym Môn pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan, ac ef, yn naturiol ddigon, oedd arweinydd pobl y brenin yn yr ynys; mor dda y gwnaeth y gwaith fel y crewyd ef, yn gynnar yn 1644 , yn arglwydd Gwyddelig o dan y teitl Viscount Bulkeley of Cashel . Ef oedd prif ysgogydd gwrthryfel ffuantus Môn (yn 1648 ); ac ef a ddioddefodd fwyaf oddi wrth amodau'r darostwng a'r ddirwy fawr a roddwyd ar war yr ynys; yn ben ar ei anffodion collodd, yn nyddiau cynnar 1650 , ei fab hynaf drwy gael ei ladd mewn ysgarmes ddamweiniol ar Draeth y Lafan . Galwai marw'r mab hynaf a thlodi cymharol y tad am i'r ail fab ddod â chyfoeth yn ôl i'r teulu; priododd ferch un o aldramoniaid Llundain , gyda gwaddol o £7,000, nith i William Harvey , y meddyg enwog a ddaeth o hyd i ddeddfau sylfaenol cylchrediad y gwaed . Gwr o bersonoliaeth rymus a thra galluog oedd y 4ydd Viscount (bu f. 1724 ), ond llwyddodd i gasglu'r fath fwdwl o swyddi i'w ddwylo ei hun fel y penderfynodd sgwieriaid y gorllewin wneud a allent i dorri ei grib; dewisasant Owen Meyrick o Fodorgan yn arweinydd arnynt; ymladdwyd pedair o lecsiynau'r sir, ond y Viscount a enillodd dair ohonynt ( 1708 , 1710 , 1722 ), a Meyrick un ( 1715 ).

Torïaid uchel rhonc oedd y Bwcleaid , yn enwedig y 4ydd Viscount , y 5ed (bu f. 1739 ), a'r 6ed (bu f. 1752 ), fel y drwgdybiwyd hwy o bleidio'r Ymhonwyr , a dyfnhawyd y ddrwgdybiaeth honno drwy ganfod, yn rhestr dodrefn y teulu a wnaed yn 1822 , gyfeiriad at gerfluniau bychain o'r ddau Ymhonnwr , a thrwy ddod o hyd i barsel o lythyrau a ysgrifennwyd o Lundain , yn 1715 , at bennaeth Baron Hill , a lliw pur Iagoaidd arnynt. Yn 1784 codwyd y 7fed Viscount , a'r diwethaf, i fod yn arglwydd ym Mhrydain Fawr ; bu farw'n ddi-blant yn 1822 . Gyda'i farw ef bu farw'r arglwyddiaeth, a daeth llechres hir Bwcleaid Baron Hill , a ddisgynnodd o dad i fab am bedair canrif, i ben. Aer yr arglwydd olaf oedd mab ei hanner brawd, Syr Robert Williams ; cafodd y gwr ieuanc ganiatâd arbennig y brenin (yn 1827 ) i alw ei hun Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley ; ef oedd y boneddwr mawrfrydig a fu f. yn 1875 .

Medrir cael syniad go dda o ddylanwad y Bwcleaid ym Môn drwy gofio iddynt — hwy, neu rai yn eu cyfrinach — gynrychioli'r sir a'r bwrdeisdrefi yn y Senedd ymron yn ddi-fwlch o ganol y 16eg g. hyd ganol y 19eg. Gymaint oedd eu dylanwad yn sir Gaernarfon hithau fel pan benderfynodd y barwn Penrhyn yn 1796 , gyda holl bleidgarwch yr esgob Warren y tu ol iddo, herio ail-etholiad Syr Robert Williams dros y sir, iddo gael curfa dost (690: 370). A phurion cofio i Syr Robert gael ei ethol dros sir Gaernarfon chwe gwaith ar ôl lecsiwn 1796 .

Ffynonellau:

  • Angharad Llwyd , A History of the Island of Mona, or Anglesey including an account of its natural productions, Druidical antiquities, lives of eminent men, the customs of the court of the ancient welsh princes, etc. :being the prize essay to which was adjudged the first premium at the Royal Beaumaris Eisteddfod, held in the month of August, 1832 (Rhuthin, 1833) , 148-63;
  • Ormerod (gol. Helsby ), History of the County Palatine City of Chester (1882) iii, 621-8;
  • Llawysgrifau Bangor yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor , 1920-39;
  • Llawysgrifau Baron Hill yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor ;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914) , 32-3;
  • Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn , 1940 , 63-70; 1943 , 23-34;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895) , 1-13 [Anglesey], 63 [Caerns].

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54