CADWALADR, ELLIS (fl. 1707-1740), bardd

Enw: Ellis Cadwaladr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn Llandderfel, Meironnydd; preswyliai yn yr Hafod Uchel a bedyddiwyd plant iddo yn y plwyf. Canai yn y mesurau caeth ac yn y mesurau rhydd. Argraffwyd rhai o'i faledi yn y 18fed ganrif, e.e. Cerdd i ofyn Pâr o Ddillad o Rôdd Pendefig, a Cerdd o barchedigaeth urddasol Watkin Williams Wynne, Esq. Y mae pedwar o'i gyfansoddiadau yn Blodeugerdd (1759). Ymddengys oddi wrth ei 'Glod i Ferch,' sy'n cynnwys nifer o enwau clasurol, ei fod wedi cael addysg dda. Ceir nifer helaeth o'i ganeuon mewn llawysgrifau; cynnwys NLW MS 4971C: Llyfr John Beans tuag ugain.

Bu'n fuddugol yn eisteddfod y Bala, Llungwyn, 1738, yng nghystadleuaeth y gadair.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.