Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CARADOG ab IESTYN (fl. 1130), sylfaenydd teulu ‘Avene’ ym Morgannwg, a mab Iestyn ap Gwrgant. Gŵyr haneswyr amdano am fod dau gyfeiriad ato yn ‘Llyfr Llandaf.’ Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i Caradog ap Gruffydd (bu f. 1081) roddi tir yn Edlygion i'r esgob Herwald; yn yr ail disgrifir ef yn bennaeth a chanddo lu rhyfel y gwnaeth ef iawn i'r unrhyw esgob oblegid drwgweithredoedd y llu hwn gan roddi iddo faenor yn nyffryn afon Elai. Ymddengys, felly, i Iestyn, ar ôl marw Caradog, esgyn o ddinodedd a dyfod yn arglwydd Morgannwg ac mai efe ydoedd y tywysog a fwriwyd allan gan y Normaniaid pan ymosodasant ar yr ardal tua'r flwyddyn 1090. Rhaid, fodd bynnag, wrthod derbyn adroddiad manwl y gorchfygu a geir gan David Powell yn ei Historie (1584), gan na cheir tystiolaeth yn unman arall yn ei ategu. Nid oes ond un cyfeiriad cyfoes at Garadog; gyda'i frodyr Gruffydd a Goronwy bu iddo ran a chyfran yn 1127 mewn gweithred drahaus na wyddys ddim yn sicr am yr amgylchiadau y cyflawnwyd hi ynddynt. Eithr y mae'n gwbl sicr iddo, ar ôl i lywodraeth Iestyn gwympo, dderbyn gan Robert Fitz Hamon y wlad rhwng Nedd ac Afan (ac, efallai, fwy na hynny) fel daliad isradd, ac i'w olynwyr gadw'r daliad hwn am amryw genedlaethau. Trwy ei wraig, Gwladus, ferch Gruffydd ap Rhys, bu iddo bedwar mab — Morgan, Maredudd, Owain, a Cadwallon; dilynwyd ef yn Aberafan gan Morgan.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W., 402, 440, 504, 572.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor