Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb i neb ddial arno. Yr oedd o natur hyf ac anturiaethus; gan ddwyn i'w gof ei hun orchestion ei daid a'i dad, aeth rhagddo i geisio gorchfygu'r Deheubarth. Yn 1072 fe orchfygodd y tywysog a oedd yn teyrnasu, sef Maredudd ab Owain, gan ei ladd mewn brwydr ar lannau'r afon Rhymni; yn 1078 gorchfygwyd Rhys ab Owain hefyd, olynydd Maredudd ab Caint, ganddo. Eithr yn 1081 daeth trydydd gwrthwynebydd, ac un llawer mwy, i'w gyfarfod — Rhys ap Tewdwr. Dyma bellach bethau'n arwain at frwydr enwog Mynydd Carn, rywle yng ngogledd Dyfed; yno trechwyd Caradog a'i gynghreiriaid yn llwyr gan Rhys, a oedd wedi cael cymeradwyaeth esgob Tyddewi ac a gafodd hefyd gymorth Gruffydd ap Cynan. Ni chlywir mwy am Garadog; gadawodd fab, Owain, a ymsefydlodd mewn awdurdod yn Gwynllwg maes o law gan sylfaenu llinach ddiweddarach arglwyddi Cymreig Caerlleon.
Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor