CARADOG o LANCARFAN (fl. 1135), llenor

Enw: Caradog O Lancarfan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Edward Lloyd

Cyfeiria Sieffre o Fynwy ato tua 1135 yn niwedd ei lyfr ef ei hun - 'Historia Regum Britanniae.' Yn y cyfeiriad hwn caniatâ Sieffre i Garadog ddefnyddio fel offer llên hanes y brenhinoedd a deyrnasai yng Nghymru ar ôl 689, pryd y mae ef yn dirwyn ei hanes manwl ef i ben; yn yr un modd y mae'n caniatáu i Wiliam o Malmesbury a Henry o Huntingdon adrodd hanes brenhinoedd Lloegr. Y mae cael enwau y tri awdur hyn yn agos at ei gilydd yn dangos bod Caradog yn Gymro cyfoes yr oedd iddo eisoes beth gair da fel llenor. Ond nid oes dim i brofi iddo drin y maes llafur yr oedd Sieffre wedi ei ddethol iddo. Ni ddywedwyd hyd yr 16eg ganrif fod iddo gyfran yn ysgrifennu 'Brut y Tywysogion'; yn wir, y mae'r dystiolaeth fewnol yn gwbl gryf yn erbyn derbyn cred o'r fath.

Hyd y gellir casglu mewn maes cwbl wahanol y bu ei brif weithgarwch. Ar ddiwedd 'buchedd' Gildas mewn llawysgrif o'r 12fed ganrif yng Nghaergrawnt dywed Caratoc o Nancarban (y ffurf gywir - daeth yn Llancarfan dan ddylanwad estronol) ei hunan mewn barddoniaeth Lladin mai efe oedd awdur y bywyd hwn; digwydd yr un cwpled ym 'muchedd' Cadog a geir mewn llawysgrif a ddarganfuwyd' ychydig yn ôl. Naturiol a fyddai disgwyl 'buchedd' Cadog, nawddsant Llancarfan, gan Caradog, ac yntau'n hanu o Lancarfan, y fan sanctaidd honno; y mae 'buchedd' Gildas hefyd yn dangos bod yr awdur yn gyfarwydd iawn â'r lle a'i draddodiadau, ond yn dangos ar yr un pryd ddiddordeb cynnes yn abaty Glastonbury - hyn, efallai, yn awgrymu i Caradog symud yno, a chael yno groeso, wedi'r aflwydd a ddaeth i ran Llancarfan ar ôl i'r Normaniaid ei meddiannu.

Ni wyddys ddim am weddill ei yrfa; dywed David Powell yn ei Historie (1584) iddo farw yn 1156, ond ni ddaeth tystiolaeth i hyn o un man arall.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.