CARNE, Syr EDWARD (c. 1500 - 1561), llysgennad

Enw: Edward Carne
Dyddiad geni: c. 1500
Dyddiad marw: 1561
Plentyn: Cecil Wogan (née Carne)
Plentyn: Thomas Carne
Rhiant: Howel Carne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysgennad
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab Howel Carne, Pontfaen, sir Forgannwg, ac yn disgyn o dywysogion Gwent. Cafodd ei addysg yn Rhydychen, gan raddio'n B.C.L. yn 1519 a D.C.L. yn 1524; a daeth yn bennaeth Greek Hall. Yn 1530 fe'i hanfonwyd i Rufain i gyflwyno rhesymau'r brenin Harri VIII dros beidio ag ymddangos ei hunan pan benderfynwyd fod ei gyngaws am 'ysgariad' i gael ei drin yno. Gan i'r pab wrthod derbyn Carne fel 'excusator,' apeliodd yntau 'oddi wrth esgob Rhufain sydd heb wybod y manylion ac sy'n ofni rhag yr ymerodryddion, at esgob Rhufain sydd yn eu gwybod ac sydd hefyd yn fwy rhydd' (1534), a dychwelodd i Loegr i fod yn brysur yn y gwaith o gario allan fesurau ad-daliad Harri ar Eglwys Rufain; bu'n un o'r comisiynwyr a fu'n difodi'r mynachdai, a phrynodd abaty Ewenni yn gartref iddo'i hun. Aeth ar genhadaeth i Brussels (1538-9) a Cleves (1539), pan oedd Harri yn ceisio gwraig arall, ac i Ffrainc yn 1540 i fynegi'r newid ym mholisi'r brenin pan gwympodd Thomas Cromwell, gan ddychwelyd i'r Iseldiroedd yn 1541 i fod yn llysgennad trigiannol. Gwobrwyodd Harri ef trwy ei wneud yn ganghellor Salisbury a rhoddi iddo fywoliaeth segur yng Nghymru hefyd; fe'i cysurwyd, fodd bynnag, pan gafodd gan y pab Clement VII faddeueb i fod mewn grym mewn cysylltiad â chapel y Groes Sanctaidd yn y Bontfaen yn ystod bywyd Carne a gwnaeth yr ymherodr Charles V ef yn farchog. Wedi pasio Deddf Uno Cymru a Lloegr fe'i dewiswyd yn siryf cyntaf Morgannwg (1542). Bu'n ymladd yn y cyrch ar Boulogne yn 1544. ac yna aeth ar genhadaeth arall i'r Iseldiroedd.

Yn ystod teyrnasiad Edward VI yr oedd mewn neilltuedd ar wahân i wasanaeth ar Gyngor Goror Cymru (c. 1551), a chael gofyn ei gyngor ar brydiau ar faterion diplomyddol. Pan oedd Mari yn teyrnasu bu'n siryf Morgannwg am ail dymor (1554), a thra bu'n aelod seneddol dros sir Forgannwg (1554) digwyddodd iddo fod yr aelod seneddol cyntaf o Gymru y rhoddwyd mesur seneddol iddo i'w ystyried ('committal'); yr oedd hefyd yn aelod o'r comisiwn a ddyfarnodd i Cromwell weithredu'n anghyfreithlon pan gymerth esgobaeth Bonner oddi wrtho. Bu ar neges dros yr ymherodr (1553) a dilynwyd hyn gan neges lysgenhadol arall i Rufain; efe oedd yr unig lysgennad annibynnol dros y môr yn ystod teyrnasiad Mari. Ychydig cyn i'r frenhines farw gofynnodd am gael dod yn ei ôl, a threfnwyd i Thomas Goldwell, esgob Llanelwy, gymryd ei le - eithr amharwyd ar y trefniant hwn gan farwolaeth Mari. Hyd at fis Chwefror 1559, pan alwyd amdano'n ôl, yr oedd yn parhau i fynegi teimladau da Rhufain a Sbaen tuag at Loegr ac yn cyhoeddi rhybuddion yn erbyn Ffrainc. Gwrthododd y pab roddi trwydded deithio iddo, eithr yn hytrach ei ddewis yn rheolwr yr ' English Hospital ' yn Rhufain. Cyn ei farw yr oedd wedi colli ffafr yr awdurdodau a Thomas Goldwell wedi ei wneuthur yn rheolwr yr 'Hospital' yn ei le. Rhoes ei gyfeillion Geoffrey Vaughan a Thomas Freeman dabled yn yr 'Hospital' i gofio amdano (gweler y geiriad yn Archæologia Cambrensis, II, iv, 131; Strype, Annals, I, i, 51; Clark, Limbus, 374-8). Difwynwyd y tabled pan feddiannwyd Rhufain gan y Ffrancwyr yn 1849, ond fe'i hadferwyd trwy gymorth John Montgomery Traherne, canghellor Llandaf. Awgryma'r geiriad nad oedd cadw Carne yn Rhufain am gyhyd o amser ddim yn gwbl yn groes i'w ddymuniad; gallai o'r herwydd barhau'n deyrngar i Rufain heb golli ei hawl i'w ystadau; aeth y rhain i'w fab THOMAS CARNE, a fu'n aelod seneddol dros sir Forgannwg ac yn siryf deirgwaith, er nad oedd yn Brotestant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.