CARR, HENRY LASCELLES (1841-1902), newyddiadurwr a pherchennog newyddiaduron;
g. yn Knottingley, sir Efrog, yn fab i'r Parch. James B. Carr a fwriodd dymor yn y Barri yn weinidog gyda'r Wesleaid. Addysgwyd y bachgen yng ngholeg diwinyddol S. Aidan, Birkenhead, ond ar ddiwedd ei gwrs yno penderfynodd adael y pulpud am y Wasg. Wedi treulio peth amser yn swyddfa'r Daily Post yn Lerpwl aeth yn is-olygydd ar y Western Mail, Caerdydd, pan sefydlwyd y papur hwnnw yn 1869; ar ôl hynny bu'n rheolwr, golygydd, a chydberchennog hyd 1901, pryd yr ymddiswyddodd oherwydd afiechyd. Bu'n amlwg mewn gwaith cyhoeddus yng Nghaerdydd, yn aelod o gyngor y dref ac yn ynad heddwch. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn eu mysg un ar ddeddf cau tafarnau Cymru ar y Sul. Bu f. 5 Hydref 1902.
Llyfryddiaeth:
- West. Mail, 7 Hydref 1902, 1 Mai 1919.
Awdur:
Owen Picton Davies, (1882-1970), Caerdydd / Bangor